Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1187 Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod pob bwrdd iechyd bellach yn gwahodd
plant 12-17 oed i gael eu brechu, a bod y camau y mae’r ddeiseb yn galw
amdanynt bellach yn cael eu cymryd. Cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y
deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1193 Gofynnwch i Lywodraeth y DU am ganiatâd i gynnal refferendwm ar ddychwelyd pwerau datganoledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau, o ystyried ymateb y Prif Weinidog a
rôl y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i edrych ar bob
opsiwn drwy ymgysylltu â phobl Cymru, nad oedd fawr ddim pellach y gallai'r
Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a
chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1194 Deddfu i roi’r hawl i rydd-ddeiliaid mewn eiddo sydd newydd eu hadeiladu yr hawl i reoli eu hystadau eu hunain Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn fodlon ar ymateb y
Gweinidog. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd am amlygu’r mater a
chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1195 Cynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Glyn Summers a gweithredoedd Coleg y Cymoedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Roedd y deisebydd wedi cysylltu ag ef yn flaenorol ar y
mater hwn. Nododd yr Aelodau ymateb y Gweinidog, gan gytuno ei bod
yn anodd gweld llawer o le i symud ymlaen gydag ymchwiliad annibynnol. Fodd
bynnag, cytunodd yr Aelodau i drefnu cyfarfod gyda'r deisebydd, i drafod a oes
elfennau eraill o'r ymgyrch y gellid eu dwyn ymlaen. |
|
P-06-1197 Gwasanaeth sgrinio’r galon am ddim i bob plentyn rhwng 11 a 35 oed sy'n cynrychioli ei ysgol neu sir mewn chwaraeon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r
mater hwn yn seiliedig ar gyngor gan y Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol, sydd o’r
farn nad yw sgrinio o'r fath yn briodol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i rannu barn y deisebydd a
gofyn iddi ystyried cynnal astudiaeth hydredol benodol i Gymru am y rhesymau a
amlinellwyd gan y deisebydd. |
|
P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod ymateb y Gweinidog yn nodi bod
ceffylau yn cael eu diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru ac y dylai pryderon
gael eu codi gyda’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, er bod ceffylau yn cael eu
diogelu o dan ddeddfwriaeth yng Nghymru, nododd y Pwyllgor fod y deisebydd yn
mynegi pryder difrifol ynghylch y diffyg gorfodi. Felly, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am wybodaeth bellach
gan sefydliadau lles anifeiliaid ynghylch yr arfer hwn yng Nghymru ac am unrhyw
bryderon o ran gorfodi'r gyfraith. |
|
P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain
(BASC). Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi gofyn am ragor o
dystiolaeth cyn cymryd unrhyw gamau pellach, megis ystyried dileu rhywogaethau
o’r rhestr goch i’w hamddiffyn rhag cael eu saethu. Cytunodd y Pwyllgor, felly,
i ysgrifennu at yr RSPB a sefydliadau perthnasol eraill i geisio eu barn ar y
mater. |
|
P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Roedd y deisebydd wedi cysylltu ag ef yn flaenorol. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am farn arbenigol
ac eglurhad pellach ar y mater hwn, cyn penderfynu sut i fwrw ymlaen â’r
ddeiseb hon. |
|
P-06-1205 Buddsoddwch mewn amddiffynfeydd llifogydd ar y Tywi yng Nghaerfyrddin gan gynnwys ardal y Cei Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol
Cymru i gael gwybod a oes cynllun llifogydd yn cael ei ddwyn ymlaen mewn
perthynas â'r Tywi. |
|
P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Nododd y Pwyllgor, er bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i
wella ymwybyddiaeth a chefnogaeth, nad yw'r mater o nodi gofalwyr wedi'i
ddatrys eto. Felly derbyniodd y Pwyllgor gynnig y Dirprwy Weinidog i adrodd yn
ôl yn dilyn trafodaeth bellach gan Grŵp Cynghori’r Gweinidog. Roedd yr Aelodau'n am gofnodi eu diolch i'r holl ofalwyr
di-dâl am eu gwaith. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-954 Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Er y cafwyd rhywfaint o wybodaeth ychwanegol ers mis
Rhagfyr 2020, nododd y Pwyllgor nad yw'n ymddangos yn ddigon sylweddol i newid
meddwl Llywodraeth Cymru, felly cytunodd o’i anfodd i gau'r ddeiseb. |
|
P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill Dogfennau ategol: Cofnodion: O ystyried bod y mater hwn wedi cael ei drafod a'i
gymeradwyo yn y Senedd, a'i fod ar waith ers hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd
unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch
i'r deisebydd. |
|
P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ei fod wedi trafod y ddeiseb ar sawl
achlysur a bod y ddeiseb hefyd wedi cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn.
Daethpwyd i’r casgliad na ellir dweud yn glir beth arall y gellid ei wneud ar y
mater hwn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebwyr a chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1071 Dylid argraffu rhif cofrestru cerbydau ar becynnau bwyd brys a werthir drwy ffenest y car Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor nad oedd yn glir pa gamau pellach y
gellid eu cymryd ar y mater hwn, gan nodi bod rhai camau gan y Llywodraeth i
fynd i'r afael â'r broblem sylfaenol. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r
deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1083 Dylid gwarchod lesddeiliaid yng Nghymru rhag talu am waith adfer cladin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Er i’r Pwyllgor nodi nad oedd y mater hwn wedi cael ei
gwblhau’n llawn, cytunodd ei fod wedi cyrraedd man addas i nodi bod gwaith ar y
trywydd iawn. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Nododd y Pwyllgor ymateb y Gweinidogion a'r cynnydd a
wnaed hyd yn hyn, a’r ffaith y bydd camau pellach yn y dyfodol. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ddiolch i'r deisebydd am y gwaith y mae wedi'i wneud i godi
ymwybyddiaeth o'r materion, a chau'r ddeiseb. |
|
P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i nodi ymateb y Gweinidog a’r cyllid
ar gyfer rolau i hyrwyddo a dathlu hanes pobl Dduon. Cytunodd y Pwyllgor hefyd
i ysgrifennu at y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliannol yn gofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch cartref parhaol ar gyfer casgliad Tiger
Bay, ac unrhyw faterion cysylltiedig. |
|
P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod yr adeilad wedi cael ei werthu, a
mynegodd y gobaith y gall y perchnogion newydd weithio gydag ymgyrchwyr i
ddatblygu'r safle er budd y gymuned. Nododd y Cadeirydd angerdd y deisebwyr a
oedd wedi ysgrifennu i gefnogi'r ddeiseb. Gan hynny, cytunodd i ddiolch i’r
deisebwyr a chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi nodi sut y mae'n
ceisio cefnogi gweithwyr addysg proffesiynol yn ystod y cyfnod tra heriol hwn,
felly cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
Trafodaeth bellach ar y trothwy llofnodion Cofnodion: Ar ôl ystyried yr holl ddata, ac argymhelliad y pwyllgor
blaenorol, cytunodd yr Aelodau fod cyfiawnhad dros newid yn y trothwy
llofnodion i ddeiseb gael ei thrafod gan y Pwyllgor, ac y dylid newid y trothwy
i 250 o lofnodion. Cytunodd yr Aelodau hefyd i newid y trothwy erbyn dechrau'r
flwyddyn newydd ym mis Ionawr 2022. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y
Pwyllgor Busnes yn argymell y newid perthnasol i Reol Sefydlog 23.4(i) |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Cynllunio Llwyth Gwaith y Pwyllgor yn y Dyfodol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd i
wahodd tystion i roi tystiolaeth mewn perthynas â deiseb P-06-1224 Dylunio
cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy'n cynnwys
amrywiaeth o bobl. Bydd sesiynau tystiolaeth yn cael eu cynnal ar 15 a 29
Tachwedd. |