Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(10.00-10.30) |
Deisebau Newydd |
|
P-06-1172 Gwahardd tân gwyllt rhag cael ei werthu i'r cyhoedd. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd
fod hwn yn faes pryder i Lywodraeth Cymru, a chytunodd i sicrhau bod
Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o bryderon y deisebydd, ac i gau'r ddeiseb. |
||
P-06-1174 Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl Noddfa. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ynghylch Cynllun
Cenedl Noddfa, ac roedd yr adroddiad yn dangos cefnogaeth sylweddol i'r dull
gweithredu hwn. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd nad oedd angen cymryd
unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb hon a chytunodd i'w chau. |
||
P-06-1175 Stopiwch y cyfnodau atal byr yn ystod gwyliau hanner tymor. Dyma'r unig seibiannau y caniateir i staff addysgu eu cael. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd
yr anawsterau yr oedd hyn yn eu hachosi i bobl yn y sector. Nododd y Pwyllgor
fod cyfnodau atal byr yn fesur brys i fynd i'r afael â risgiau i iechyd y
cyhoedd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-06-1176 Y Siarter Urddas i ysbrydoli pob dinesydd i ddod yn llysgennad dros Gymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i nodi'r ymateb gan Lywodraeth Cymru, i ddiolch i'r deisebydd am godi
syniad diddorol a phwysig, a chau'r ddeiseb. |
||
P-06-1177 Darparu cynhyrchion mislif yn rhad ac am ddim i bob person sy’n cael mislif yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i nodi ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sydd ar ddod ar y Cynllun
Gweithredu Strategol ar Urddas Mislif ac i annog y deisebydd i gymryd rhan yn
yr ymgynghoriad fel ffordd wych o fynd â'r ymgyrch hon ymhellach. Wrth wneud
hynny cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi mater mor bwysig, ac
ychwanegodd fod yr Aelodau yn cefnogi'r ddeiseb yn llawn, a chau'r ddeiseb.
Staff y pwyllgor i sicrhau bod y deisebydd yn cael manylion am yr ymgynghoriad
pan fydd yn dechrau. |
||
P-06-1178 Prydau ysgol am ddim i bob disgybl yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i anfon sylwadau'r deisebydd at y Gweinidog wrth iddo lunio
adolygiad, a gofyn a fyddai modd i’r adolygiad gynnwys costau a manteision
darparu prydau ysgol am ddim i bawb. |
||
P-06-1180 Cynyddu’r addysg a'r wybodaeth sydd ar gael yn rhwydd am gyffuriau yn ysgolion uwchradd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd
bwysigrwydd y materion a godwyd. Roedd y Pwyllgor yn croesawu cyflwyno’r Maes
Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant penodol, a'r adnoddau a ddyrannwyd i Raglen
Ysgol Heddlu Cymru, a chytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. |
||
(10.30-11.30) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunodd
i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru i ddarganfod a
yw'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. |
||
P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn pam nad yw wedi
gwneud yn gyhoeddus gais y Sefydliad Rheolaeth Forol (MMO), a gofyn iddo roi'r
dogfennau a'r ohebiaeth mewn ffeil gyhoeddus ar unwaith; a gofyn am ymateb i
sylwadau a chwestiynau'r deisebwyr. |
||
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a nododd
fod y ddadl a drefnwyd o'r blaen wedi'i gohirio oherwydd y pandemig. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes yn gofyn am ail-drefnu dadl yn y
Cyfarfod Llawn ar y cyfle cyntaf. |
||
P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chytunodd fod y newidiadau y mae'r deisebydd yn galw amdanynt wedi'u cynnwys yn
y canllawiau diwygiedig, ac roedd yn cydnabod hefyd y bydd hyn yn dibynnu ar
asesiadau risg i adlewyrchu amgylchiadau lleol. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch
i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb. |
||
P-05-1045 Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a
chytunwyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd i ofyn iddo ystyried
canolbwyntio ar gymorth iechyd meddwl yn ei flaengynllun gwaith, gan
amlinellu'r pryderon a godwyd gan y deisebydd. |
||
P-05-1062 Rhoi'r gorau i'r prawf rt-PCR i brofi ar gyfer COVID-19, gan nad yw'n addas i'r diben. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a
chytunodd i nodi bod Llywodraeth Cymru wedi darparu ei rhesymeg dros ddefnyddio
profion RT-PCR, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-05-1138 Profion COVID-19 wythnosol ar gyfer staff sy'n gofalu am bobl ag anghenion iechyd meddygol cymhleth. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd
fod y pryderon a godwyd bellach wedi cael sylw, a chytunodd i ddiolch i'r
deisebydd am godi'r mater a chau'r ddeiseb. |
||
P-05-1133 Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd
i ysgrifennu yn ôl at Weinidog y Gymraeg ac Addysg gan dynnu sylw at bryderon a
chwestiynau'r deisebwyr, a gofyn sut y gallai'r deisebydd gyfrannu at
gynllunio'r proffesiwn addysgu yn y dyfodol. |
||
P-05-1135 Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chytunwyd nad oedd fawr ddim arall y gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd,
a nododd y dylai'r Aelodau lleol ystyried y mater hwn yn awr, a chytunwyd i roi
manylion i'r deisebydd ar sut i gysylltu â'i Aelod(au) lleol. Felly, cytunodd i
gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
||
P-05-949 Arbed yr Hen Ysgol Ganolradd i Ferched y Bont-faen rhag ei dymchwel. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi bod yn rhan o'r ymgyrch hon o'r blaen Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog newydd er mwyn darganfod ei farn ar y
mater hwn, a gofyn a oes ganddo unrhyw wybodaeth newydd i'w rhannu. |
||
P-05-1073 Sefydlu ac adeiladu cangen newydd o Amgueddfa Cymru sy’n canolbwyntio ar ran Cymru mewn trefedigaethedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a fyddai’n ystyried
ail-leoli archif Tiger Bay mewn lleoliad mwy hygyrch i'r cyhoedd. ac i geisio
cael ymateb i'r cynnydd a wnaed o ran cydnabod a dathlu hanes pobl dduon yng
Nghymru. |
||
P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a fyddai’n ystyried
ail-leoli archif Tiger Bay mewn lleoliad mwy hygyrch i'r cyhoedd, ac i ofyn am
ymateb i'r cynnydd a wnaed o ran cydnabod a dathlu hanes pobl dduon yng
Nghymru. |
||
P-05-1069 Arbed y tir fferm a'r caeau gwyrdd yn Cosmeston Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a
chytunodd nad oedd llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar y mater, ac
felly cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-05-856 Gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr masnachol 3ydd parti yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd
fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag
Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly
llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
P-05-915 Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
nododd fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud
ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021.
Felly llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
P-05-939 Gosod embargo ar unwaith ar drwyddedau bridio cŵn newydd, ar adnewyddu trwyddedau ac ar geisiadau cynllunio nes bod y rheoliadau'n addas i’r diben a nes bod modd eu gorfodi. Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd
fod Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag
Anifeiliaid) (Cymru) 2021 wedi'u pasio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Felly
llongyfarchodd y Pwyllgor yr ymgyrchwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
P-05-1068 Caniatáu cyfarfodydd ymbellhau cymdeithasol mewn gerddi preifat i ddilyn y wyddoniaeth ac osgoi teimlo’n ynysig. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
nododd fod y camau y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel
0. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. Wrth wneud
hynny, cytunodd y Pwyllgor hefyd i nodi ei sylwadau ychwanegol yn ymwneud â'r
broses ddeisebau, a chytunodd y bydd y Pwyllgor yn ystyried y rhain wrth iddo
ddatblygu ei raglen waith. |
||
P-06-1191 Dylid cael gwared ar fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob priodas yng Nghymru yr haf hwn ar ôl 15 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a
chydymdeimlodd â'r rhai sy'n cynllunio priodasau. Nododd y Pwyllgor fod y camau
y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb bellach yn digwydd o dan Lefel 0. Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 5 ar agenda’r cyfarfod hwn. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(11.30 - 11.45) |
Blaenraglen waith Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor sut yr oedd am weithredu o ran ei Flaenraglen Waith, a gofynnodd i'r
tîm clercio baratoi papur ffurfiol yn nodi opsiynau ar gyfer cynnal rhagor o
waith manwl ar amrywiaeth o ddeisebau yn y dyfodol. Cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am ganiatâd i symud ei slot bore Llun i brynhawn Llun, gan ei
fod yn rhagweld y byddai cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ailddechrau. |