Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

Datganodd Luke Fletcher ei fod yn aelod o fudiad Achub Milgwn Cymru a’i fod wedi hefyd wedi noddi sawl digwyddiad i Hope Rescue yn y Senedd.

 

 

(14.00 - 14.30)

2.

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data fel mater o drefn o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn.

 

Julie Morgan MS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

Alistair Davey – Llywodraeth Cymru, Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan, AS a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Allister Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl yn Llywodraeth Cymru.

 

 

(14.30 - 14.50)

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1271 Caffael y tir gan Network Rail lle mae ATR884 yn rhedeg fel llwybr caniataol a threfnu cynnal a chadw.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Gweinidog i ofyn a allai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd swyddogion wedi trafod y trefniadau cynnal a chadw a’r cynlluniau ar gyfer gwelliannau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

 

3.2

P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd ac yn y Bumed Senedd cyhoeddodd adroddiad gyda nifer o elusennau, yn y sector tai a digartrefedd ac yn y sector lles anifeiliaid, o'r enw 'paw-licy' anifeiliaid anwes.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn am ragor o eglurhad ar y pwyntiau a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys:

 

  • a fydd canllawiau ynghylch yr hyn a fyddai’n cael ei ystyried yn ‘rhesymol’, ac a yw’n cyfeirio at unrhyw ffurf ar ddatrys anghydfod os na all /nad yw’r landlord a’r tenant yn cytuno o ran anifeiliaid anwes;
  • sut mae'r Ddeddf yn mynd i'r afael â'r ffaith bod llawer o hysbysebion ar gyfer eiddo rhent yn datgan yn benodol 'dim anifeiliaid anwes', cyn bod modd cynnal unrhyw sgyrsiau ynghylch a fyddai darpar denant ag anifail anwes yn 'rhesymol'; a
  • pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod tenantiaid yn cael gwybod am eu hawliau o dan Ddeddf Defnyddwyr 2015, a ddylai atal landlordiaid rhag gwrthod yn afresymol geisiadau tenantiaid i gadw anifeiliaid anwes, a pha gymorth fydd ar gael i’r tenantiaid hynny.

 

 

3.3

P-06-1276 Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am gynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddechrau tymor yr hydref.

 

 

3.4

P-06-1278 Cyflwyno gwersi ar fagu plant a sgiliau bywyd sylfaenol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni ymateb y Gweinidog sydd bellach yn nodi bod y cyfrifoldeb bellach ar ysgolion i nodi'r gwersi sgiliau bywyd y maent am eu dysgu i'w disgyblion, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am godi ymwybyddiaeth o'r mater.

 

3.5

P-06-1279 Rhowch y gorau i fod yn anghyson o ran canllawiau COVID. Gadewch i ysgolion gael yr un hyblygrwydd â sinemâu neu stadia

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gan nad oes unrhyw reoliadau Covid-19 ar waith yn awr, a chan fod ysgolion yn gallu gwneud penderfyniadau ynghylch yr hyn sy’n briodol i’w cymuned, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

3.6

P-06-1280 Canslwch arholiadau Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru ar gyfer haf 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac roedd yn cydnabod yr heriau sylweddol y mae dysgwyr, athrawon a rhieni wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig a’r effaith barhaus arnynt. O ystyried bod dysgwyr wedi dechrau sefyll eu harholiadau Safon Uwch ac UG ar 16 Mai 2022, ac yng ngoleuni’r camau lliniarol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i leddfu rhywfaint o’r pwysau ar ein pobl ifanc, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolchodd i’r deisebydd.

 

 

(15.00 -15.40)

4.

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Yr Arglwydd (David) Lipsey, Cadeirydd Premier Greyhound Racing

 

Malcolm Tams, Stadiwm Milgwn y Cymoedd

 

Mark Bird, Bwrdd Milgwn Prydain Fawr 

 

Professor Madeleine Campbell, Aelod annibynnol o Fwrdd Milgwn Prydain Fawr

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Arglwydd (David) Lipsey, Cadeirydd Premier Greyhound Racing; Malcolm Tams, Stadiwm Milgwn y Cymoedd; Mark Bird, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Milgwn Prydain Fawr; Yr Athro Madeleine Campbell, Aelod annibynnol o Fwrdd Milgwn Prydain Fawr a David Cartwright.   

Perchennog cŵn sy'n rasio yn Stadiwm Milgwn y Cymoedd.

 

 

(15.40 - 16.00)

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

5.1

P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros nes bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn gorffen y gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd ar y mater, a thrafod y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

5.2

P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2021 bellach wedi cwblhau Cyfnod 2, a threfnwyd trafodion Cyfnod 3 ar gyfer dydd Mawrth 21 Mehefin 2022. Cytunodd yr Aelodau i drafod y ddeiseb eto mewn cyfarfod yn y dyfodol unwaith y bydd trafodion Cyfnod 3 wedi dod i ben.

 

 

5.3

P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i barhau i gadw llygad ar y mater nes ceir casgliad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd fel rhan o raglen waith UK Reach, sydd i ddod i ben ym mis Tachwedd 2022.

 

 

5.4

P-06-1212 Deddf Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddar y mae’r Pwyllgor wedi’i wneud ar y ddeiseb. Bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi yn awr, a bydd gwybodaeth ysgrifenedig a gesglir ar hyn o bryd gan lawer o deuluoedd, hefyd yn cyfrannu ato. Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn yn nhymor yr hydref.

 

Mynegodd yr Aelodau hefyd gofnod o’u diolch i'r holl deuluoedd sydd wedi bod yn ymwneud â'r gwaith ar y ddeiseb.

 

5.5

P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn am atebion i rai o'r cwestiynau a godwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Cymwysterau Cymru.

 

 

5.6

P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog am y tro olaf i ofyn am atebion i rai o'r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd yn ei ohebiaeth ddiweddar.

 

 

5.7

P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd nad oes llawer rhagor y gallant ei wneud ar y mater fel Pwyllgor, fodd bynnag mae’n bosibl i’r Aelodau hyrwyddo profiad byw gofalwyr mewn gwaith yn y dyfodol ac ar lawr y Siambr. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

 

5.8

P-06-1248 Dylid newid y Rheolau Sefydlog a’r meini prawf ar gyfer derbyn deisebau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni'r ymateb a gafwyd gan y Llywydd, cytunodd i gau'r ddeiseb ac i ddiolch i'r deisebydd.

 

Wrth wneud hynny, anogodd y Pwyllgor y cyhoedd i ymgysylltu â'u cynghorwyr lleol a oedd newydd eu hethol ynghylch materion lleol.

 

6.

P-06-1181 Mae treillio ar wely'r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu'n moroedd!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

 

(16.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(16.00 - 16.05)

8.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data fel mater o drefn o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd, a chroesawodd ymrwymiad y Gweinidog i brofiadau bywyd pobl mewn gofal. Roeddent yn cytuno bod yn rhaid i’r hyn sy’n deillio yn sgil yr ymchwiliad gael eu cynhyrchu mewn ffyrdd sy'n hygyrch i bobl ifanc.

 

 

(16.05 - 16.10)

9.

Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ynghylch y datblygiadau arfaethedig i Stadiwm y Cymoedd.