Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. Esgusododd Peredur Owen Griffiths ei hun ar gyfer yr eitem gyntaf.

(9.30 - 10.15)

2.

Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10.15 - 11.00)

3.

Adolygiad o’r Polisi Urddas a Pharch

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y cynllun gwaith a chytunodd i gynnal ymgynghoriad ynghylch urddas a pharch.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Comisiwn gwblhau arolwg bwrdd gwaith o ddarpariaethau eraill.