Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

(09:30-10:30)

2.

Ymchwiliad i Lobïo: Crynodeb o'r dystiolaeth

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan dystion yn ystod y sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwiliad i lobïo.

 

2.2 Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o wybodaeth gan swyddogion am amrywiaeth o faterion cysylltiedig, cyn dychwelyd at y pwnc ar gyfer ei drafod yn y dyfodol.

 

(10:30-10:45)

3.

Ymateb gan y Prif Weinidog ynghylch Fferm Gilestone

Cofnodion:

3.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Prif Weinidog, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(10:45-10:50)

4.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10:50-10:55)

5.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10:55-11:00)

6.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at yr adroddiad hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol, ar ôl i ragor o’r wybodaeth sy’n ofynnol ddod i law.