Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Meriel Singleton
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant. |
|
(9.35 - 9.40) |
Ethol Cadeirydd dros dro yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwyno Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor y dylid ethol John Griffiths AS
yn Gadeirydd dros dro yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn gwyno. |
|
(9.40 - 10.25) |
Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y newidiadau terfynol i'r
Weithdrefn. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y canllawiau i gyd-fynd â'r
Weithdrefn, yn amodol ar rai mân newidiadau. |
|
(10.25 - 10.30) |
Papurau i'w nodi - Rheolau a’r canllawiau diwygiedig ar ddefnyddio adnoddau’r Senedd Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y rheolau a’r canllawiau diwygiedig
ar ddefnyddio adnoddau’r Senedd a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Prif
Weithredwr. |