Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/11/2022 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant na dirprwyon.

 

(9.35 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 1

Billy McLaren - Cofrestrydd Lobïo, yr Alban

James Drummond – Cofrestrydd Lobïo Cynorthwyol, yr Alban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yn yr Alban gyda Chofrestrydd Lobïo a Chofrestrydd Lobïo Cynorthwyol Senedd yr Alban.

 

(10.20 - 11.00)

3.

Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 2

Anthony Murray – Pennaeth Cynorthwyol yr Uned Rheoleiddio Lobïo, Iwerddon.

Cofnodion:

3.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yng Ngweriniaeth Iwerddon gyda Phennaeth Cynorthwyol yr Uned Rheoleiddio Lobïo, y Comisiwn Safonau Swyddi Cyhoeddus, Iwerddon.

 

(11.05 - 11.45)

4.

Ymchwiliad i Lobïo: Sesiwn dystiolaeth 3

Harry Rich - Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol, San Steffan

Cofnodion:

4.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod trefniadau lobïo yn San Steffan gyda’r Cofrestrydd Lobïwyr Ymgynghorol, San Steffan.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6 a 7.

Cofnodion:

5.1 Cafodd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod o dan Reol Sefydlog 17.42 ei gytuno.

 

(11.45 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i Lobïo: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

7.

Papurau i'w nodi - Llythyr gan y Prif Weithredwr

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weithredwr a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig.