Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30 - 9.35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1              John Griffiths oedd yn cadeirio’r eitem gyntaf fel y Cadeirydd dros dro dynodedig a chroesawodd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.2              Esgusododd Vikki Howells a Peredur Owen Griffiths eu hunain ar gyfer yr eitem gyntaf. Roedd Rhianon Passmore a Rhun ap Iorwerth yn bresennol yn eu lle.

 

(9.35 - 10.00)

2.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10.10 - 10.25)

3.

Adroddiad cydymffurfio Grwpiau Trawsbleidiol

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Llywydd ysgrifennu at yr holl Aelodau yn eu hatgoffa o'r rheolau ar weithredu Grwpiau Trawsbleidiol yn ogystal â'u cyfrifoldebau fel Cadeiryddion Grwpiau Trawsbleidiol.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Llywydd gadarnhau sefyllfa'r tri grŵp syn ymddangos yn segur, gan gynnwys a ydynt wedi cwrdd neu'n bwriadu cwrdd, neu a ydynt am ddadgofrestru'n wirfoddol.

 

(10.00 - 10.10)

4.

Cofrestr Buddiannau'r Aelodau - newid arfaethedig i MS Forms

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor i dreialu’r defnydd o Microsoft Forms ar gyfer cyflwyno newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau.

 

(10.25 - 10.45)

5.

Ymatebion ymgynghoriad Grwpiau Trawsbleidiol

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunwyd o fwyafrif na fyddai adolygiad sylfaenol o ddefnydd Grwpiau Trawsbleidiol o adnoddau'r Senedd.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weithredwr er mwyn canfod sut mae'r rheolau ariannol ar hyn o bryd yn gweithredu mewn perthynas â phresenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd a digwyddiadau Grwpiau Trawsbleidiol.

 

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i nifer o fân newidiadau i'r rheolau presennol a gofyn i swyddogion eu diweddaru yng ngoleuni hyn. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i drafod y rheolau diweddaraf mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(10.45 - 11.00)

6.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).