Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

(9.35 - 10.00)

2.

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau a chytunodd i wneud diwygiadau pellach i’r Weithdrefn ddrafft.

 

(10.00 - 10.15)

3.

Cod Gweinidogion Cymru

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog ynghyd â'r nodyn cyngor cyfreithiol.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Llywydd, gan anfon copi at y Comisiynydd Safonau, i amlinellu ei ganfyddiadau ynghylch y ffordd y mae’r Cod ar gyfer Aelodau Dynodedig Plaid Cymru yn rhyngweithio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o’r Senedd.

 

(10.15 - 10.30)

4.

Ymchwiliad i Lobïo - ymghynghoriad drafft

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y ddogfen ymgynghori ddrafft, a chytunodd hefyd y dylid cynnal adolygiad o’r grwpiau trawsbleidiol fel rhan o'r gwaith yn y maes hwn.