Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a nododd fod Peredur Owen Griffiths yn bresennol yn lle Heledd Fychan. Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

(9.35 - 10.30)

2.

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd i ddiwygio fersiwn ddrafft y Weithdrefn newydd.

 

(10.30 - 10.55)

3.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10.55 - 11.00)

4.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).