Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

2.

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - ymgynghoriad drafft

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y weithdrefn ddrafft ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, a chytunodd arni.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

3.

Papur cwmpasu ar ymchwiliad i lobïo

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gyfer ei ymchwiliad i lobïo.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod dogfen ymgynghori ddrafft yn y flwyddyn newydd.

 

3.3 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r ymgynghoriad hwn unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd wedi cau.

4.

Gohebiaeth gan y Prif Weithredwr ar Reol Sefydlog 3 ar gofnodi cyflogaeth aelodau'r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Brif Weithredwr Comisiwn y Senedd, a chytunodd i ymateb i’r ohebiaeth honno, gan ofyn am ragor o wybodaeth.

5.

Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).