Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2     Cafwyd ymddiheuriad gan Andrew RT Davies.

 

1.3     Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

(09.35 - 10.15)

2.

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd

Cofnodion:

2.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor ailddrafft o'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod y weithdrefn ymhellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

(10.15 - 11.00)

3.

Trafod adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

3.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)