Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r Comisiynydd Safonau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

1.2        Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

(9.30 - 9.50)

2.

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - adborth

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd y Comisiynydd Safonau adborth i'r Pwyllgor ar sut roedd y Weithdrefn ddiwygiedig yn gweithio hyd yn hyn.

 

2.2. Cytunodd y Pwyllgor i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod diweddarach.

 

(9.50 - 10.10)

3.

Ymchwiliad Lobïo

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i rannu ei safbwynt presennol ar lobïo gyda grwpiau allweddol cyn cwblhau ei ganfyddiadau.

 

(10.10 - 10.30)

4.

Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau - sesiynau galw heibio

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Safonau ar y broses bresennol ar gyfer cofrestru a datgan buddiannau.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y fformat ar gyfer sesiynau galw heibio i’r Aelodau i gefnogi'r ymgynghoriad.

 

(10.30 - 10.40)

5.

Ymchwiliad i Grwpiau Trawsbleidiol - adroddiad drafft

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ar Grwpiau Trawsbleidiol.

 

(10.40 - 10.45)

6.

Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

 

(10.45 - 10.50)

7.

Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).