Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2021 - Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

2.

Cylch gwaith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor ei gylch gwaith a’i nodi, fel sydd wedi’i ragnodi gan Reol Sefydlog 22.

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42 i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

5.

Gweithdrefnau’r pwyllgor a’i ffyrdd o weithio

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd y Comisiynydd Safonau i'r cyfarfod.

 

5.2 Trafododd y Pwyllgor ei weithdrefnau a'i ffyrdd o weithio.

 

5.3 Yn unol â pharagraff 10.2 o'r weithdrefn, cytunodd y Pwyllgor i ethol Andrew RT Davies yn gadeirydd dros dro mewn achosion lle na all y Cadeirydd gyflawni ei ddyletswyddau.

6.

Gwaith cynnar y Pwyllgor

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei weithgaredd cynnar a chytunodd ar flaenoriaethau'r rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a thu hwnt.

7.

Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).

8.

Gohebiaeth gan y Comisiynydd Safonau at Gadeirydd y Pwyllgor

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Comisiynydd Safonau o dan baragraff 10 o'r weithdrefn gwynion.