Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/03/2023 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS, ac roedd Ken Skates AS yn dirprwyo.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau iaith

§  Mícheál Ó Foighil, Bainisteoir Lurgan, Coláiste Lurgan

§  Lowri W. Williams, Cyfarwyddwr Strategol, Comisiynydd y Gymraeg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o sefydliadau iaith.

 

(10.40 - 11.40)

3.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: sesiwn dystiolaeth gyda Chwnsler Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd

§  Denise McQuade, Conswl Cyffredinol Iwerddon i Gymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gonswl Cyffredinol Iwerddon yng Nghaerdydd.

 

(11.50 - 12.50)

4.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: sesiwn dystiolaeth gyda’r rheini sy’n derbyn cyllid yr UE

§  Gwyn Evans, Rheolwr Cronfa Allanol, Cyngor Sir Benfro

§  Steven Conlan, Athro Bioleg Foleciwlaidd a Bioleg Gellog, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan rai oedd yn derbyn cyllid yr UE.

 

(12.50)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Cyhuddiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru

Dogfennau ategol:

(12.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (iv) and (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.50 - 13.00)

7.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(13.00 - 13.10)

8.

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: trafod rhaglen waith yr ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Adolygodd y Pwyllgor amserlen yr ymchwiliad.

 

(13.10 - 13.30)

9.

Cyhuddiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: trafod canlyniad Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol Undeb Rygbi Cymru

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ganlyniad Cyfarfod Cyffredinol Arbennig Undeb Rygbi Cymru.

 

10.

Arian ychwanegol ar gyfer pyllau nofio

Cofnodion:

10.1 Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ei bod yn dyrannu £63 miliwn o gyllid ar gyfer pyllau nofio yn Lloegr, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a'r Prif Chwip ynghylch cyllid ychwanegol ar gyfer pyllau nofio.