Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

(09.30-10.30)

2.

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau llafur a chynrychiolwyr gweithwyr

Andy Warnock, Swyddog Rhanbarthol Cymru a De Orllewin Lloegr, Undeb y Cerddorion

Simon Curtis, Trefnydd Cenedlaethol a Rhanbarthol - Cymru a De Orllewin Lloegr, Equity

Carwyn Donovan, Swyddog Negodi Cymru, Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a Theatr

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Undeb y Cerddorion

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Equity

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Undeb y Cerddorion; Equity; yr Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a Theatr (BECTU); a CULT Cymru (Undebau Creative Unions Learning Together).

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn, ac i ofyn unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd.

 

(10.40-11.40)

3.

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau’r diwydiannau sgrin

Pauline Burt, Prif Weithredwr, Ffilm Cymru

Gabriella Ricci, Swyddog Gweithredol Cynhyrchu, Stiwdios Bad Wolf

Allison Dowzell, Rheolwr Gyfarwyddwr, Screen Alliance Wales

Richard Pring, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr, Wales Interactive

 

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Ffilm Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ffilm Cymru Wales; stiwdio Bad Wolf; Cynghrair Sgrin Cymru; a Wales Interactive.

 

 

(11.40)

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Caerdydd a Chyngor Celfyddydau Cymru ynghylch dyfodol Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.

 

4.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Prif Weinidog ynghylch goblygiadau ariannol Biliau

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Prif Weinidog ynghylch yr Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

4.4

Gwybodaeth ychwanegol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 13 Hydref

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Gyfarwyddwr Creu Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch y posibilrwydd o sefydliad masnachol yn cymryd rheolaeth dros Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40-11.50)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.50-12.00)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein: Trafod yr adroddiad drafft.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad drafft a chytuno arno.

 

(12.00-12.20)

8.

Trafod Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y Cylch Gorchwyl drafft a chytuno arno.

 

(12.20-12.30)

9.

Trafod gohebiaeth ddrafft

Llythyr drafft at y Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytuno arni fel y’i drafftiwyd.