Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS wrth i'r Pwyllgor
barhau â’i ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i
Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy
Williams AS. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog
y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip i fynegi pryderon a rannwyd gyda'r
Pwyllgor ynghylch Newquest. 2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Adran dros
Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ynghylch
Bil Cyfryngau arfaethedig Llywodraeth y DU. 2.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ddirprwy
Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip i ofyn am eglurder ynghylch
y cymorth a gynigir i Rubicon Dance. |
|
Llythyr at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip gan y Cadeirydd, Cyngor Gweithredol Cymru, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, ynghylch Newsquest Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymchwiliad undydd y Pwyllgor ar effaith costau cynyddol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip ynghylch ymchwiliad undydd y Pwyllgor ar effaith costau cynyddol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan y Llywydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan y Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru Wales, ynghylch Bil Cyfryngau arfaethedig Llywodraeth y DU Dogfennau ategol: |
||
Datganiad i'r wasg gan Rubicon Dance Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Darren Price, Llefarydd CLlLC dros y Gymraeg ac Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 13 Hydref Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan Mudiad Meithrin yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 13 Hydref Dogfennau ategol: |
||
(09.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 5, 6 ac 8. Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.30-09.35) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Diogelwch Ar-lein Nodyn Cyngor Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyfreithiol mewn
perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod
adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(09.35-09.45) |
Ymchwiliad undydd i effaith costau cynyddol: Trafod yr adroddiad drafft (2) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd
arno yn amodol ar fân newidiadau. |
|
(09.45-10.30) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Trafod y materion o bwys Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddogfen materion o bwys, a
chytunodd i ddod â'r eitem hon yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10.30-11.30) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Bethan Webb, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg Siwan Jones, Pennaeth
Cynllunio Cymraeg mewn Addysg Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg. 7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i
ofyn am ragor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â’r sesiwn graffu. |
|
(11.30-11.40) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |