Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/10/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon - y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

(09.30 - 10.30)

2.

Yr heriau sy'n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion

Yr Athro Justin Lewis, Athro mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol Caerydd

Tom Ware, Deon Cyswllt, Trawsnewid Cyfryngau a Phartneriaethau, Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·       Yr Athro Justin Lewis, Athro mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol Caerydd

·       Tom Ware, Deon Cyswllt, Trawsnewid Cyfryngau a Phartneriaethau, Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru

 

 

(10.40 - 11.40)

3.

Yr heriau sy'n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau celfyddydau a diwylliant

Dafydd Rhys, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru

Gillian Mitchell, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Clara Cullen, Rheolwr Cefnogi Lleoliad, Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·       Dafydd Rhys, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru

·       Gillian Mitchell, Prif Weithredwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

·       Clara Cullen, Rheolwr Cefnogi Lleoliad, Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth

 

3.2 -  (Hefin) Cytunodd Dafydd Rhys i rannu enghreifftiau o astudiaethau achos o brosiectau sy'n gweithio gyda phobl awtistig

 

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, ynghylch briffio Cymru Greadigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ddrprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, ynghylch briffio Cymru Greadigol.

 

4.2

Llythyr at y Pwyllgor Busnes ynghylch yr amserlen ar gyfer Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Protocol Gogledd Iwerddon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Pwyllgor Busnes ynghylch yr amserlen ar gyfer Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Protocol Gogledd Iwerddon.

 

4.3

Llythyr gan y Gynghrair Cefn Gwlad ynghylch ymchwiliad brys i werthu a phrynu tir amaethyddol – a werthir yng Nghymru ar gyfer plannu coed – i gwmnïau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3a Yn dilyn trafodaeth ar y llythyr gan y Gynghrair Cefn Gwlad, cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn nodi'r llythyr ac yn ymchwilio i ba gamau y mae Pwyllgorau eraill yn eu cymryd.

 

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu.

 

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.40 - 11.50)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod eitemau 2 a 3.

 

(11.50 - 12.00)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

(12.00 - 12.05)

8.

Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi: trafod yr ymateb drafft

Dogfennau ategol:

(12.05 - 12.20)

9.

Adroddiad ar gostau cynyddol: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Oherwydd diffyg amser, cytunwyd y dylid gohirio’r drafodaeth ar yr adroddiad, a threfnu cyfarfod ychwanegol (preifat/rhithwir) yr wythnos gyntaf ar ôl y toriad er mwyn i’r pwyllgor gael y drafodaeth hon.

 

(12.20 - 12.30)

10.

Trafod yr ohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth drafft.

 

(12.30)

11.

Adroddiad Monitro Materion Rhyngwladol: i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr Adroddiad Monitro Materion Rhyngwladol