Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, Delyth Jewell AS. Cytunodd y Pwyllgor i ethol
Heledd Fychan AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.2 Croesawodd y
Cadeirydd dros dro yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Estynnodd y Cadeirydd dros dro
groeso arbennig i Sioned Williams AS wrth i'r Pwyllgor barhau â’i ymchwiliad ar
y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol Cymraeg
mewn Addysg. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. |
|
(09.30-10.30) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau athrawon Eithne Hughes,
Cyfarwyddwr, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Ioan Rhys Jones,
Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Siôn Amlyn,
Swyddog Polisi a Gwaith Achos, NASUWT Briff ymchwil Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Tystiolaeth
ysgrifenedig gan NASUWT Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas yr Arweinwyr Ysgolion a
Cholegau; Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC); a NASUWT |
|
(10.40-11.40) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gydag eiriolwyr addysg cyfrwng Cymraeg Heini Gruffydd,
Cadeirydd, Dyfodol i'r Iaith Toni Schiavone,
Cadeirydd Grŵp
Addysg, Cymdeithas yr Iaith Dyfan Sion,
Cyfarwyddwr Strategol, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg Elin Maher,
Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro, Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Ddyfodol i'r Iaith Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Gymdeithas yr Iaith Tystiolaeth gan
Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Dyfodol i’r Iaith; Cymdeithas yr Iaith;
swyddfa Comisiynydd y Gymraeg; a Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RHAG). 3.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan AS a Sioned Williams AS
ddatganiadau o fuddiant perthnasol. |
|
(11.40) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y
papurau eu nodi. 4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ynghylch ei
alwad am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn
y dyfodol. 4.3 Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r
Prif Chwip ynghylch datblygu strategaeth ddiwylliannol i Gymru, gan ofyn yn benodol
pa rôl, os o gwbl, a fydd gan y Pwyllgor yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ystyriaeth y Pwyllgor o’r Bil Diogelwch Ar-lein: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cofrestru nodau masnach ar gyfer geiriau Cymraeg Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymchwiliad Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan gyhoeddwr The National a Corgi Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch dyfodol y diwydiant newyddion yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Newsquest Media Group ynghylch cau The National Wales Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Olygydd Rhanbarthol (Cymru) Newsquest at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cau The National Wales Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Reolwr Gyfarwyddwr y Glamorgan Star at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cau The National Wales Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch strategaeth ddiwylliannol i Gymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Weinidog yr Economi at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Mike Pemberton at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch newyddion BBC Cymru Wales Dogfennau ategol: |
||
(11.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(11.40-12.00) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.00-12.10) |
Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Amlinelliad o'r ymchwiliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor yr amlinelliad ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arno |