Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/07/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS a Buffy Williams AS wrth i'r Pwyllgor ddechrau ei ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

(09.30-10.30)

2.

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg

Clive Phillips, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Estyn

Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr, Cyngor y Gweithlu Addysg

Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol

Enlli Thomas, Prifysgol Bangor

 

Ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad

Brif ymchwil

Ymateb ysgrifenedig i'r ymgynghoriad gan Estyn

Ymateb ysgrifenedig i'r ymgynghoriad gan Gyngor y Gweithlu Addysg

Ymateb ysgrifenedig i'r ymgynghoriad gan y Consortia Rhanbarthol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE), a Phrifysgol Bangor.

 

(10.30)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

3a

Llythyr gan Julia Lopez AS, Gweinidog Gwladol y Cyfryngau, Data a Seilwaith Digidol, Llywodraeth y DU at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc

Dogfennau ategol:

3b

Gwybodaeth ychwanegol gan StreetGames yn dilyn y cyfarfod ar 8 Mehefin 2022

Dogfennau ategol:

3c

Llythyr gan Weinidog yr Economi at y Llywydd ynghylch Bil Protocol Gogledd Iwerddon

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar nod masnachu geiriau Cymraeg

Dogfennau ategol:

(10.30-10.40)

5.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

(10.40-11.40)

6.

Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Trafod yr adroddiad drafft 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried gwelliannau y tu allan i'r cyfarfod.

 

(11.40-12.00)

7.

Adroddiad Blynyddol: Trafod yr adroddiad drafft 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried gwelliannau yn ei gyfarfod nesaf.

 

(12.00-12.30)

8.

Trafod cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr ymchwiliad i’r gweithlu creadigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y ddogfen a chytunodd i’w hystyried eto yn ei gyfarfod nesaf.