Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/06/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1         Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

1.2         Llongyfarchodd y Cadeirydd dîm pêl-droed dynion Cymru ar gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd Fifa.

1.3         Llongyfarchodd y Cadeirydd hefyd y tîm a oedd yn gyfrifol am gais Wrecsam am Ddinas Diwylliant y DU 2025.

1.4         Tynnodd y Cadeirydd sylw at y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol a gafodd ei lansio fis Mai i gynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu canu offeryn yn yr ysgol. Nododd y Cadeirydd hefyd y cafodd cynllun peilot Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth y DU ei lansio i brynu lleoliadau a’u rhentu’n ôl i weithredwyr am gyfradd decach, er mwyn sicrhau eu dyfodol a’u helpu i dyfu. Roedd y rhain yn fentrau a argymhellwyd gan y Pwyllgor hwn, a’r Pwyllgor a’i rhagflaenodd yn y Bumed Senedd.

 

(09.30-10.15)

2.

Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag elusennau chwaraeon (1)

Mark Lawrie, Prif Swyddog Gweithredol GemauStryd

Claire Lane, Cyfarwyddwr Cymru GemauStryd

Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Anabledd Cymru

 

Briff Ymchwil

Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu

Ymateb i'r ymgynghoriad gan GemauStryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr StreetGames a Chwaraeon Anabledd Cymru.

2.2    Cytunodd StreetGames i ddarparu gwybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'r sesiwn.

 

(10.25-11.10)

3.

Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag elusennau chwaraeon (2)

Gary Lewis, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Phrentisiaethau, Urdd Gobaith Cymru

Emily Reynold, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid

 

Ymateb i'r ymgynghoriad gan Urdd Gobaith Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Urdd Gobaith Cymru a'r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.

 

(11.20-12.00)

4.

Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag academyddion

Melitta McNarry, Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, Prifysgol Cymru

Cofnodion:

4.1    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Melitta McNarry, Athrofa Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru, Prifysgol Abertawe.

2.2    Cytunodd Melitta McNarry i ddarparu gwybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i'r sesiwn.

 

(12.00)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1    Cafodd y papurau eu nodi.

5.2    Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch Rheoliadau Drafft Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022.

 

(12.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

6.1    Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00-12.15)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1    Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.15-12.25)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Diogelwch Ar-lein

Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg , Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch llythyr at Lywodraeth y DU ar y Bil Diogelwch Ar-lein

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1    Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyfreithiol mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

8.2    Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a chytunodd i ysgrifennu i fynegi diddordeb mewn mynd i unrhyw sesiwn friffio gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol.

 

5a

Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor ar wrandawiad cyn penodi: Yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer Cadeirydd Chwaraeon Cymru

Dogfennau ategol:

5b

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch araith y Frenhines 2022

Dogfennau ategol:

5c

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Rheoliadau drafft Safonau’r Gymraeg (Rhif 8) 2022

Dogfennau ategol:

5d

Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 4 Mai 2022

Dogfennau ategol:

(12.25-12.30)

9.

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd: Ymgynghoriad ar y Cynllun drafft

Llythyr gan Rhun ap Iorwerth AS, Comisiynydd, at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Gohebiaeth ddrafft gan y Cadeirydd: I’w hystyried

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1    Ystyriodd y Pwyllgor y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd gyda'i farn.