Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Hefin David AS. |
|
(09.30-10.15) |
Gwrandawiad cyn penodi Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer swydd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 5, 6 a 9 o gyfarfod heddiw. Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15-10.30) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 4.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer adrodd, cytunodd yr
Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, y
tu allan i’r cyfarfod. |
|
(10.30-10.50) |
Trafod y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad yn y dyfodol i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a dull o weithio ar y cyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur cwmpasu drafft ar
ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y dyfodol, ynghyd ag
opsiynau ar gyfer gweithio ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater hwn eto y tu
allan i'r cyfarfod hwn. |
|
(10.50-11.00) |
Adroddiadau diweddar ar anghydfodau mewnol yn Amgueddfa Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Heledd Fychan AS ar gyfer yr
eitem hon. 6.2 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft at Ddirprwy
Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, a chytunodd i ystyried
gwelliannau y tu allan i'r cyfarfod hwn. |
|
(11.15-12.15) |
Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru Brian Davies,
Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Owen Hathway,
Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus Briff ymchwil Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Chwaraeon Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Chwaraeon Cymru. 7.2 Cytunodd cynrychiolwyr Chwaraeon Cymru i ysgrifennu
at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i'r sesiwn. |
|
(12.15) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 8.1 Cafodd y papurau eu nodi. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at S4C ynghylch
effaith cau'r Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc ar blant a phobl ifanc. |
|
(12.15-12.30) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 9.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog,
Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif
Chwip, ar faterion yn ymwneud â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23. |
|
Llythyr ar y cyd gan Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Lywodraeth Cymru 2022-23: Diwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Y Gymraeg Dogfennau ategol:
|
||
Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Cysylltiadau rhyngwladol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Dr Caitriona Noonan ynglŷn â chau’r Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc Dogfennau ategol: |