Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Talodd y Cadeirydd deyrnged i Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, a fu farw'n ddiweddar, a chytunodd i ysgrifennu at ei deulu i fynegi cydymdeimlad ar ran y Pwyllgor.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Gwrandawiad cyn penodi Cadeirydd Chwaraeon Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Chwaraeon Cymru.

 

(10.15)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

3a

Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru 2022-25

Dogfennau ategol:

3b

Gwybodaeth ychwanegol gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yn dilyn ymchwiliad undydd i faterion rhyngwladol

Dogfennau ategol:

3c

Gwybodaeth ychwanegol gan Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru yn dilyn ymchwiliad undydd i faterion rhyngwladol

Dogfennau ategol:

3d

Gohebiaeth oddi wrth Ofcom Cymru ynghylch yr adroddiad ar ddadansoddiad o gynnwys newyddion rhwydwaith

Dogfennau ategol:

(12.00-12.30)

9.

Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Trafod y dull o ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â chanfyddiadau gwaith ymgysylltu’r Pwyllgor â phlant a phobl ifanc o ran blaenoriaethau’r Chweched Senedd.

 

9.2 Trafododd y Pwyllgor y dull a’r drefn ar gyfer ei waith ymgysylltu, a chytunodd arnynt.

 

(10.15-11.00)

5.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

5.2 Oherwydd yr amserlen ar gyfer adrodd, cytunodd yr Aelodau i drafod yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, y tu allan i’r cyfarfod.

 

(11.15-11.20)

6.

Trafod y llythyr oddi wrth y Llywydd mewn perthynas â’r adolygiad o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth drafft rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru a'r Swyddfa Gyfathrebu (Ofcom).

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi ei farn.

 

(11.20-11.30)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd i’w gyhoeddi yn ddarostyngedig i fân newidiadau.

 

(11.30-12.00)

8.

Strategaeth a blaenoriaethau drafft ar gyfer y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Tafododd y Pwyllgor y ddogfen strategaeth a blaenoriaethau ddrafft a chytunodd i'w chyhoeddi.

 

8.2 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.