Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/11/2021 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd bod y cyhoedd wedi eu gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

 

 

(09.30-10.30)

2.

Ymchwiliad undydd ar y diwydiannau celfyddydau a chreadigol

Rebecca Nelson, Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Cyfrifyddu, Cyngor Celfyddydau Cymru

Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru

Gillian Mitchell, Prif Weithredwr, Celfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

Lorne Campbell, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig, National Theatre Wales

Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr, Creu Cymru

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Tystiolaeth ysgrifenedig gan National Theatre Wales

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Creu Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru; Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; National Theatre Wales; a Creu Cymru.

 

2.2 Cytunodd cynrychiolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i'r sesiwn.

 

(10.40-11.40)

3.

Ymchwiliad undydd ar y diwydiannau celfyddydau a chreadigol

Clara Cullen, Rheolwr Cymorth Lleoliadau, Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth

Dyfrig Davies, Cadeirydd, Teledwyr Annibynnol Cymru

Pauline Burt, Prif Weithredwr, Ffilm Cymru

Sara Pepper, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth; TAC; Ffilm Cymru Wales; a Phrifysgol Caerdydd.

 

3.2 Cytunodd cynrychiolwyr Ffilm Cymru Wales a Phrifysgol Caerdydd ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth sy’n berthnasol i'r sesiwn.

 

 

(11.40)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Economi ynghylch cyllid ar gyfer lleoliadau celfyddydol.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gyda chopi at Lywodraethau Cymru a'r Alban, ynghylch proses benodi Cadeirydd Ofcom.

 

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.40-11.50)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y cymorth sydd ar gael i recriwtio Prif Weithredwr newydd.

 

(11.50-12.00)

7.

Craffu cyffredinol: trafod yr ohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd i ystyried gwelliannau y tu allan i'r cyfarfod hwn.

 

4a

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Tribiwnlys y Gymraeg: Adroddiad Blynyddol 2020-21

Dogfennau ategol:

4b

Llythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cefnogaeth i'r Gymraeg a gwaith craffu blynyddol

Dogfennau ategol:

4c

Gwybodaeth ychwanegol gan Undeb Rygbi Cymru yn dilyn yr ymchwiliad undydd ar chwaraeon

Dogfennau ategol:

4d

Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru yn dilyn yr ymchwiliad undydd ar chwaraeon

Dogfennau ategol:

4e

Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4f

Llythyr ar y cyd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y problemau y mae lleoliadau celfyddydol yn eu hwynebu

Dogfennau ategol:

4g

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch dyfodol y cyfryngau a darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4h

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gymdeithas Amgueddfeydd yn dilyn yr ymchwiliad undydd ynghylch Treftadaeth, Amgueddfeydd ac Archifau

Dogfennau ategol:

4i

Llythyr gan Lywodraethau'r Alban a Chymru at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch penodiad Cadeirydd Ofcom

Dogfennau ategol:

(12.00-12.30)

8.

Ymateb i Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr - ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i gyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar gynnwys y diwygiadau a ystyriwyd ac y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod hwn.