Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Heledd
Fychan AS fuddiant perthnasol gan ei bod wedi cael ei chyflogi gan Amgueddfa
Genedlaethol Cymru yn flaenorol; wedi bod yn aelod o fwrdd Cymdeithas yr
Amgueddfeydd a phwyllgor Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru. |
|
(09.30-10.20) |
Ymchwiliad undydd i dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau Christopher Catling, Yr
Ysgrifennydd (Prif Swyddog Gweithredol), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau
Cyhoeddus, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Nest Thomas, Llywydd, Ffederasiwn
Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru Sharon Heal, Cyfarwyddwr,
Cymdeithas yr Amgueddfeydd Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf
Cymru, a Chymdeithas yr Amgueddfeydd 2.2 Cytunodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru,
Ffederasiwn Amgueddfeydd a Chymdeithas yr Amgueddfeydd i ysgrifennu at y
Pwyllgor i roi rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r sesiwn. |
|
(10:30-11.20) |
Ymchwiliad undydd i dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau David Anderson,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Neil Wicks, Prif
Swyddog Gweithredu a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Genedlaethol
Cymru Pedr ap Llwyd,
Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Owain Roberts,
Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. |
|
(11.30-12.10) |
Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru: cyflawni prosiectau ar y cyd David
Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Kath
Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Nia Williams,
Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Rebecca
Nelson, Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Cyfrifyddu, Cyngor Celfyddydau Cymru Diane Hebb,
Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. 5.1 Cytunodd y ddau sefydliad i ddarparu rhagor o
wybodaeth yn ymwneud â’r sesiwn. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i
ofyn am ragor o fanylion am y materion yn ei ymateb i’r Pwyllgor ynghylch
gwaith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhyngwladol. 5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr
Economi a’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip i
ofyn iddynt egluro’u cyfrifoldebau hwy dros y sectorau sy’n rhan o gylch gwaith
y Pwyllgor. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(12.10-12.30) |
Ôl-drafodaeth breifat Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a
chytunodd i ysgrifennu at Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. 7.2 Oherwydd prinder amser, ni chafodd y Pwyllgor gyfle i
drafod y llythyr drafft at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol,
Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Cytunodd yr aelodau i ystyried yr
ohebiaeth y tu allan i'r cyfarfod hwn. |
|
Ymateb gan y Prif Weinidog ynghylch cysylltiadau rhyngwladol Dogfennau ategol: |
||
Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwylliant a'r celfyddydau Dogfennau ategol: |
||
Galwad am wybodaeth gan Banel Cydnabyddiaeth y Wasg (Press Recognition Panel) ynghylch rheoleiddio’r wasg yn y Deyrnas Unedig Dogfennau ategol: |
||
Ymateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |