Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/11/2021 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, datganodd Heledd Fychan AS fuddiant perthnasol gan ei bod wedi cael ei chyflogi gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn flaenorol; wedi bod yn aelod o fwrdd Cymdeithas yr Amgueddfeydd a phwyllgor Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru.

 

(09.30-10.20)

2.

Ymchwiliad undydd i dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau

Christopher Catling, Yr Ysgrifennydd (Prif Swyddog Gweithredol), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Nest Thomas, Llywydd, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru

Sharon Heal, Cyfarwyddwr, Cymdeithas yr Amgueddfeydd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, a Chymdeithas yr Amgueddfeydd

 

 

2.2 Cytunodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd a Chymdeithas yr Amgueddfeydd i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r sesiwn.

 

(10:30-11.20)

3.

Ymchwiliad undydd i dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau

David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Neil Wicks, Prif Swyddog Gweithredu a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Owain Roberts, Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

(11.30-12.10)

4.

Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru: cyflawni prosiectau ar y cyd

David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Rebecca Nelson, Cyfarwyddwr Cyllid a Swyddog Cyfrifyddu, Cyngor Celfyddydau Cymru

Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru

 

 

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

5.1 Cytunodd y ddau sefydliad i ddarparu rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r sesiwn.

 

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o fanylion am y materion yn ei ymateb i’r Pwyllgor ynghylch gwaith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhyngwladol.

 

5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a’r Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip i ofyn iddynt egluro’u cyfrifoldebau hwy dros y sectorau sy’n rhan o gylch gwaith y Pwyllgor.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.10-12.30)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

7.2 Oherwydd prinder amser, ni chafodd y Pwyllgor gyfle i drafod y llythyr drafft at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Cytunodd yr aelodau i ystyried yr ohebiaeth y tu allan i'r cyfarfod hwn.

 

5.1

Ymateb gan y Prif Weinidog ynghylch cysylltiadau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

5.2

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: y wybodaeth ddiweddaraf am ddiwylliant a'r celfyddydau

Dogfennau ategol:

5.3

Galwad am wybodaeth gan Banel Cydnabyddiaeth y Wasg (Press Recognition Panel) ynghylch rheoleiddio’r wasg yn y Deyrnas Unedig

Dogfennau ategol:

5.4

Ymateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Dogfennau ategol: