Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y
Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd, ond nododd y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Heledd Fychan AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Tom Giffard AS. 1.5 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan
AS a Carolyn Thomas AS ddatganiadau o fuddiant perthnasol. |
|
(09.30-11.00) |
Sesiwn i graffu ar waith Gweinidogion: Gweinidog yr Economi, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip Vaughan
Gething AS, Gweinidog yr Economi Dawn Bowden
MS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip Jason
Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Sioned Evans,
Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau Papur
tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru
Briff y
Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr
Economi, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip 2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth
am faterion yn ymwneud â'r sesiwn graffu. |
|
(11.00) |
Papurau i'w nodi: Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a Chadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar ymateb Llywodraeth Cymru i argyfwng ffoaduriaid Afghanistan Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Gadeirydd Grŵp Llywio Llechi Cymru a Chyngor Gwynedd ynghylch ennill statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Ffederasiwn Busnesau Bach at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ffyrdd o weithio Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cydweithio rhwng pwyllgorau yn y Chweched Senedd Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Llywydd ynghylch amserlen y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Llythyr ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Adroddiadau Ehangu Ymgysylltiad Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ystyried y Gymraeg yng ngwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
(11.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15-12.15) |
Briff technegol gan Lywodraeth Cymru ar Gysylltiadau Rhyngwladol Paula Walsh, Dirprwy Gyfarwyddwr
Cysylltiadau Rhyngwladol Ifona Deeley, Pennaeth Cysylltiadau
Rhyngwladol Iain Quick, Pennaeth Perfformiad a
Chyflawni y Swyddfeydd Tramor Briff y Gwasanaeth Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol wedi'i
harwain gan swyddogion Llywodraeth Cymru. 5.2 Cytunodd y swyddogion i ddarparu rhagor o wybodaeth
am faterion yn ymwneud â Chysylltiadau Rhyngwladol. |
|
(12.15-12.30) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a
chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y materion a godwyd yn y
cyfarfod. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried papur ar ei
strategaeth ar gyfer y dyfodol a'i flaenraglen waith mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |