Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS wrth i'r Pwyllgor
barhau â'i ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i
Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy
Williams AS. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Tom Giffard AS, a
dirprwyodd Altaf Hussain AS ar ei ran. |
|
(13.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(13.00-14.00) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd
y dylid ystyried effaith canlyniadau Cyfrifiad 2021, a gyhoeddwyd yn ddiweddar,
ar yr ymchwiliad o ran sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i alw am ragor y dystiolaeth ar y
mater hwn ac i ddychwelyd ato mewn cyfarfod yn y dyfodol. |