Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/02/2023 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS a dirprwyodd Jenny Rathbone ar ei rhan.

 

(09.30-10.30)

2.

Cyhuddiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru

Tanni Grey-Thompson, Cadeirydd

Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro

 

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Llythyr gan Undeb Rygbi Cymru gyda gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror

Gwybodaeth ychwanegol gan Undeb Rygbi Cymru yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Chwaraeon Cymru.

 

2.1 Am 10.23, cytunodd y Pwyllgor a’r tystion i ymestyn y sesiwn dystiolaeth, a daeth i ben am 10.41.

 

(10.30)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Llythyr gan Criced Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru

Dogfennau ategol:

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(11.30-12.15)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Papur trafod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law

 

(12.15-12.30)

7.

Craffu ar waith y Gweinidogion: Trafod yr ohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth fel y’i drafftiwyd a chytuno arni.

 

(10.30-11.30)

5.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Trafod tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol

Goblygiadau data'r Cyfrifiad ar gyfer y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi ymatebion i'r ymgynghoriad ar Ddarpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

Crynodeb Ymgysylltu

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Gwybodaeth ar gyllid cyfalaf ar gyfer addysg

Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Pwyllgor Buffy Williams a Sioned Williams fel aelodau o’r Pwyllgor yn ystod y trafodion ar yr ymchwiliad i’r fframwaith deddfwriaethol sy'n hybu darpariaeth addysg Gymraeg.

 

5.2 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a’r papurau a ddaeth i law.

 

5.3 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod manylion eraill yn ymwneud â’r adroddiad drafft y tu allan i’r cyfarfod.