Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafodd dechrau cyfarfod y Pwyllgor ei oedi oherwydd
materion yn ymwneud â phresenoldeb Gweinidogion. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, Delyth Jewell
AS. Cytunodd y Pwyllgor i ethol Heledd Fychan AS yn Gadeirydd dros dro yn unol
â Rheol Sefydlog 17.22. 1.3 Croesawodd y Cadeirydd dros dro’r Aelodau i gyfarfod
y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. |
|
(09.30-11.00) |
Gwaith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip Vaughan Gething
AS, Gweinidog yr Economi. Dawn Bowden AS,
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip Jason Thomas,
Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau Nicky Guy,
Dirprwy Gyfarwyddwr Diwylliant a Chwaraeon Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Llythyr gan y
Cadeirydd at Weinidog yr Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon,
a'r Prif Chwip – 8 Tachwedd 2022 Tystiolaeth
ysgrifenedig Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr
Economi a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip. 2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth
ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn. |
|
(11.10-12.10) |
Gwaith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Sesiwn Dystiolaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Owain Lloyd,
Cyfarwyddwr Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg Bethan Webb,
Dirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Llythyr gan y
Cadeirydd at Weinidog y Gymraeg ac Addysg - 8 Tachwedd 2022 Tystiolaeth
ysgrifenedig Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg
ac Addysg. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth
ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn. |
|
(12.10) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwaith craffu ôl-weinidogol dilynol ar Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth ychwanegol gan yr Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a'r Theatr (BECTU) yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 30 Tachwedd Dogfennau ategol: |
||
(12.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r ddwy eitem gyntaf yn y cyfarfod sydd wedi’i drefnu ar 2 Chwefror 2023 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.10-12.20) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor
Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Cymru mewn
perthynas â'i waith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24. |
|
(12.20-12.25 |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Ar-lein (Rhif 3 a Rhif 4) Nodyn Cyngor
Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor y Nodyn Cyngor Cyfreithiol a
chytunwyd i ystyried Adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf, a drefnwyd ar gyfer
2 Chwefror 2023. |
|
(12.25-12.30) |
Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i Benodiadau Cyhoeddus: Trafod gohebiaeth ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytuno
arni fel y’i drafftiwyd. |