Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/11/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS wrth i'r Pwyllgor barhau â’i ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip i fynegi pryderon a rannwyd gyda'r Pwyllgor ynghylch Newquest.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ynghylch Bil Cyfryngau arfaethedig Llywodraeth y DU.

 

2.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip i ofyn am eglurder ynghylch y cymorth a gynigir i Rubicon Dance.

 

2.1

Llythyr at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip gan y Cadeirydd, Cyngor Gweithredol Cymru, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, ynghylch Newsquest

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymchwiliad undydd y Pwyllgor ar effaith costau cynyddol

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip ynghylch ymchwiliad undydd y Pwyllgor ar effaith costau cynyddol

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan y Llywydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol gan y Pennaeth Newyddion a Rhaglenni, ITV Cymru Wales, ynghylch Bil Cyfryngau arfaethedig Llywodraeth y DU

Dogfennau ategol:

2.6

Datganiad i'r wasg gan Rubicon Dance

Dogfennau ategol:

2.7

Gwybodaeth ychwanegol gan Darren Price, Llefarydd CLlLC dros y Gymraeg ac Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 13 Hydref

Dogfennau ategol:

2.8

Gwybodaeth ychwanegol gan Mudiad Meithrin yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 13 Hydref

Dogfennau ategol:

(09.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 5, 6 ac 8.

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(09.30-09.35)

4.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Diogelwch Ar-lein

Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyfreithiol mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

(09.35-09.45)

5.

Ymchwiliad undydd i effaith costau cynyddol: Trafod yr adroddiad drafft (2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.

 

(09.45-10.30)

6.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Trafod y materion o bwys

Briff Ymchwil

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddogfen materion o bwys, a chytunodd i ddod â'r eitem hon yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol.

 

(10.30-11.30)

7.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg

Siwan Jones, Pennaeth Cynllunio Cymraeg mewn Addysg

 

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am faterion yn ymwneud â’r sesiwn graffu.

 

(11.30-11.40)

8.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.