Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(11.20)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Heledd Fychan AS a Tom Giffard AS. Dirprwyodd Peredur Owen Griffiths AS ac Altaf Hussain AS ar eu rhan.

 

(11.20)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(11.20)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 6, ac 8 o'r cyfarfod hwn

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

2a

Gwybodaeth ychwanegol gan Criced Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 4 Mai 2022

Dogfennau ategol:

2b

Llythyr gan y Gweinidog dros Dechnoleg a'r Economi Ddigidol, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU, at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

2c

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Mike Hedges AS ynghylch sefydlu Amgueddfa Grefydd Genedlaethol

Dogfennau ategol:

(13.30-14.30)

7.

Cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip

Steffan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr, Datblygu Twristiaeth a Chwaraeon

Neil Welch, Pennaeth Chwaraeon

 

Papur briffio Ymchwil y Senedd

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

(14.30-15.30)

8.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.20-11.30)

4.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Diogelwch Ar-lein: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafodwyd yr adroddiad drafft a chytunwyd arno.

 

(11.30-12.30)

5.

Craffu ar Waith y Gweinidogion

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru

Andrew Gwatkin, Cyfarwyddwr, Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, Llywodraeth Cymru

 

Papur briffio Ymchwil y Senedd

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch materion sy'n berthnasol i'r sesiwn.

 

(12.30-12.40)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.