Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone AS, ac roedd Ken Skates AS yn bresennol fer dirprwy ar ei rhan.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi: nodi papurau o gyfarfod y Pwyllgor ar 22 Medi 2022 (6.1 i 6.11)

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(9.30-10.30)

3.

Bil Drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 1

Matt Davies, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Materion Amgylcheddol – Ffederasiwn Plastigau Prydain (BPF)

Natalia Lewis-Maselino, Swyddog Gweithredol Materion Diwydiannol; Plastigau a Phecynnu Hyblyg - Ffederasiwn Plastigau Prydain (BPF)

 

Bil Drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ffederasiwn Plastigau Prydain.

 

(10.40-11.25)

4.

Bil Drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 2

Judith Parry, Cadeirydd - Safonau Masnach Cymru, a, Rheolwr Gwasanaeth Cofrestru a Safonau Masnach - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Craig Mitchell, Pennaeth Cefnogi Gwastraff -  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol.

 

(11.30-12.30)

5.

Bil Drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - sesiwn gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Elen Shepard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogeli’r Amgylchedd – Llywodraeth Cymru

Nick Howard, Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth – Llywodraeth Cymru

Richard Clark, Pennaeth Ansawdd Amgylchedd Lleol – Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

5.1 1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd a swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

(12.30)

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.2

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Dogfennau ategol:

(12.30)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Bil Drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - cyfeir y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2, 3 a 4

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 3, 4 a 5.

 

9.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft cyn cytuno arno, yn amodol ar fân ddiwygiad.

 

10.

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith cyn cytuno arni.