Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Committee Room 4 - Tŷ Hywel
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 30/06/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. 1.2 Datganodd
Joyce Watson AS fuddiant perthnasol fel aelod o RSPB. |
|
(09.30-10.45) |
Adferiad Gwyrdd yng Nghymru Syr David
Henshaw, Cadeirydd – y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Syr David Henshaw, Cadeirydd y Grŵp Adferiad Gwyrdd (a Chadeirydd Cyfoeth Naturiol
Cymru), Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Corfforaethol, Cyfoeth Naturiol
Cymru a Peter Davies, Aelod o’r Grŵp Adferiad Gwyrdd (a
Chadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru). |
|
(11.00-12.00) |
Trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim Dr Nerys
Llewelyn-Jones - Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Nerys Llewelyn-Jones, Asesydd Interim Diogelu'r
Amgylchedd Cymru. |
|
(12.35-14.05) |
Adferiad gwyrdd a threfniadau llywodraethu amgylcheddol interim Gareth Cunningham,
Pennaeth Cadwraeth Cymru - Cymdeithas Cadwraeth Forol Yr Athro Steve
Ormerod, Athro ym maes Ecoleg a Chyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr - Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol
Caerdydd Annie Smith,
Pennaeth Polisi Natur a Gwaith Achos – RSPB Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Cunningham, Pennaeth Cadwraeth Cymru, y
Gymdeithas Cadwraeth Forol, yr Athro Steve Ormerod, Athro ym maes Ecoleg a
Chyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr, Ysgol y
Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, ac Annie Smith, Pennaeth Polisi Natur a Gwaith
Achos, RSPB Cymru. |
|
(14.05) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau o dan eitem 5.1 i 5.6. |
|
Adferiad gwyrdd a threfniadau llywodraethu amgylcheddol interim Dogfennau ategol: |
||
Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol Dogfennau ategol: |
||
Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Dogfennau ategol: |
||
Llywodraethu amgylcheddol Dogfennau ategol: |
||
Trafnidiaeth - terfyn cyflymder trefol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.6.1 Croesawodd y
Pwyllgor y rheoliadau i gyflwyno cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am eglurhad ar y
cynlluniau i osod arwyddion ar gyfer y terfyn cyflymder newydd. |
||
(14.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig. |
|
Adferiad gwyrdd yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 4. |
||
Trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3 Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4. 8.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog cyn y datganiad deddfwriaethol
arfaethedig ar 5 Gorffennaf 2022 i nodi ei safbwynt ynghylch Bil
llywodraethiant amgylcheddol. |
||
Ystyried dull gweithredu ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar ei ddull o drafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer
Bil Banc Seilwaith y DU. Cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a
Llywodraeth Leol i ofyn am ragor o wybodaeth a/neu eglurhad ar faterion yn
ymwneud â’r Memorandwm. |
||
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar gysylltedd digidol yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gysylltedd digidol yng Nghymru, a chytunwyd
arno. |