Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 4 - Tŷ Hywel

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/06/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod.

1.2     Datganodd Joyce Watson AS fuddiant perthnasol fel aelod o RSPB.

 

(09.30-10.45)

2.

Adferiad Gwyrdd yng Nghymru

Syr David Henshaw, Cadeirydd – y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Syr David Henshaw, Cadeirydd y Grŵp Adferiad Gwyrdd (a Chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru), Sarah Williams, Pennaeth Strategaeth Corfforaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Peter Davies, Aelod o’r Grŵp Adferiad Gwyrdd (a Chadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru).

 

(11.00-12.00)

3.

Trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim

Dr Nerys Llewelyn-Jones - Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Nerys Llewelyn-Jones, Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru.

 

(12.35-14.05)

4.

Adferiad gwyrdd a threfniadau llywodraethu amgylcheddol interim

Gareth Cunningham, Pennaeth Cadwraeth Cymru - Cymdeithas Cadwraeth Forol

Yr Athro Steve Ormerod, Athro ym maes Ecoleg a Chyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr - Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd

Annie Smith, Pennaeth Polisi Natur a Gwaith Achos – RSPB Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gareth Cunningham, Pennaeth Cadwraeth Cymru, y Gymdeithas Cadwraeth Forol, yr Athro Steve Ormerod, Athro ym maes Ecoleg a Chyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Dŵr, Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, ac Annie Smith, Pennaeth Polisi Natur a Gwaith Achos, RSPB Cymru.

 

(14.05)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1     Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 5.1 i 5.6.

 

 

5.1

Adferiad gwyrdd a threfniadau llywodraethu amgylcheddol interim

Dogfennau ategol:

5.2

Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

5.3

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol

Dogfennau ategol:

5.4

Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

5.5

Llywodraethu amgylcheddol

Dogfennau ategol:

5.6

Trafnidiaeth - terfyn cyflymder trefol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.1  Croesawodd y Pwyllgor y rheoliadau i gyflwyno cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am eglurhad ar y cynlluniau i osod arwyddion ar gyfer y terfyn cyflymder newydd.

 

 

(14.05)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

7.

Adferiad gwyrdd yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 4.

 

8.

Trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3

Cofnodion:

8.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4.

8.2     Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog cyn y datganiad deddfwriaethol arfaethedig ar 5 Gorffennaf 2022 i nodi ei safbwynt ynghylch Bil llywodraethiant amgylcheddol.

 

9.

Ystyried dull gweithredu ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1     Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o drafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU. Cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am ragor o wybodaeth a/neu eglurhad ar faterion yn ymwneud â’r Memorandwm.

 

10.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar gysylltedd digidol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1   Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gysylltedd digidol yng Nghymru, a chytunwyd arno.