Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(14:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

O dan Reol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Sarah Murphy AS ddatganiad o fuddiant.

 

(14:30-14:40)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau. Mewn perthynas ag Eitem 2.8, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas yr Ynadon.

 

2.1

Llythyr gan y Llywydd at yr holl Aelodau ynghylch blaenoriaethu busnes pwyllgorau

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pwyllgorau ynghylch craffu ar gyllideb ddrafft 2023-24

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch y Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

2.5

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch y gweithlu gofal plant

Dogfennau ategol:

2.6

Gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch craffu ar oblygiadau ariannol Biliau

Dogfennau ategol:

2.7

Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Luke Fletcher at y Cadeirydd ynghylch ail gyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

2.8

Llythyr gan Gymdeithas yr Ynadon at y Cadeirydd ynghylch tystiolaeth ychwanegol

Dogfennau ategol:

(14:40)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o eitemau 4, 5, 6 ac 8 o’r cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau y cynnig.

 

(14:40-15:10)

4.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r flaenraglen waith a chytuno arni.

 

(15:10-15:15)

5.

Ymchwiliad i gyfiawnder data: Trafod penodi cynghorydd arbenigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor benodi cynghorydd arbenigol a chytuno arno.

 

(15:15-15:20)

6.

Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus Trefn y Broses Ystyried - cytuno cyn trafodion Cyfnod 2

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau ar Drefn y Broses Ystyried.

 

(15.30 - 17.00)

7.

Cyllideb Ddrafft 2023-24: sesiwn dystiolaeth weinidogol

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Claire Bennett – Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

Maureen Howell – Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd

Sian Gill – Pennaeth Adrodd Ariannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:

 

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd

Sian Gill, Pennaeth Adrodd Ariannol

 

(17:00-17:15)

8.

Cyllideb Ddrafft 2023-24: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ragor o eglurhad mewn perthynas â rhywfaint o'r dystiolaeth a glywyd. Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.