Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/10/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. Dirprwyodd Peredur Owen Griffiths ar ran Sioned Williams
a dirprwyodd Joel James ar ran Altaf Hussain yn ystod pob eitem ar yr agenda a
oedd yn gysylltiedig â Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus
(Cymru). Cafwyd datganiadau o fuddiant gan Jenny Rathbone, Sarah
Murphy a Ken Skates o dan Reol Sefydlog 17.24A. |
|
Papurau i'w nodi: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, cyn cytuno mewn sesiwn
breifat i ymateb i'r llythyr gan y Dirprwy Brif Gwnstabl Blakeman o dan eitem
2.8. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: ymgynghoriad ar gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl. Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Confensiwn Cyngor Ewrop ar Atal a Threchu Trais yn erbyn Menywod a Thrais Domestig Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: yr adroddiad ar bwysau costau byw Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: yr argyfwng costau byw Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – menywod mudol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: monitro data mewn perthynas â darpariaeth iechyd meddwl i fenywod mudol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â’r Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol – menywod mudol Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth â’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at yr Ysgrifennydd Parhaol: archwilio gosod amcanion llesiant Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i’r Llywydd ynghylch y Bil Hawliau Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
(13:30-15:00) |
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth weinidogol Hannah Blythyn:
Dirprwy Weinidog, Partneriaeth Gymdeithasol Neil Surman: Dirprwy
Gyfarwyddwr - Partneriaeth Gymdeithasol Sue Hurrell: Pennaeth
Caffael Gwaith Teg Neil Buffin:
Dirprwy Gyfarwyddwr - Gwasanaeth Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol a’i swyddogion mewn perthynas â Bil Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). |
|
(15:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig |
|
(15:00-15:30) |
Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth weinidogol - trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod y sesiwn gyda’r Dirprwy Weinidog, a chytunodd i drafod ei adroddiad
drafft ar y Bil yn ystod y cyfarfod nesaf. |
|
(16:45-17:00) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei ddull ymgysylltu ar gyfer ei
ymchwiliad i brofiadau menywod o'r system cyfiawnder troseddol, cyn cytuno ar
ddull penodol. |
|
(15:45-16:45) |
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: menywod mudol - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i
drafod drafft diwygiedig yn ystod y cyfarfod nesaf. |