Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Amseriad disgwyliedig: O bell 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/04/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

 

Pe byddai'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor eisoes wedi cytuno y byddai Sarah Murphy AS yn cadeirio dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

Cafwyd datganiad o fuddiant gan Altaf Hussain fel Cynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac fel Ymddiriedolwr Canolfan Adsefydlu Brynawel.

 

 

(13:30)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

2.1

Llythyr gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ynghylch yr ymchwiliad Tlodi Tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd - 24 Mawrth 202

Dogfennau ategol:

2.2

Gohebiaeth rhwng Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a Llywodraeth Cymru ynghylch gyrwyr cerbydau nwyddau trwm

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr adroddiad ‘Dyled a’r Pandemig’ - 31 Mawrth 2022

Dogfennau ategol:

2.4

Llythyr gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch y cynllun strategol - 4 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

2.5

Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch yr ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl - 5 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

2.6

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at holl bwyllgorau’r Senedd ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Ymgysylltu - 11 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

2.7

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd - 13 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

2.8

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y sesiwn dystiolaeth ar Dlodi Tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd - 13 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

2.9

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch newidiadau i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd - 20 Ebrill

Dogfennau ategol:

2.10

Llythyr gan Centrica ynghylch yr ymchwiliad i Dlodi Tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd - 20 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

2.11

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - 20 Ebrill 2022

Dogfennau ategol:

(13:30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (iv) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(13:30-14:45)

4.

Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft cyn cytuno i'w gwblhau y tu allan i'r Pwyllgor.

 

(14:45-15:00)

5.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Iaith Arwyddion Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y Memorandwm cyn cytuno ar yr adroddiad drafft. Nododd y Pwyllgor y byddai'r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.