Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y
cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. Cafwyd ymddiheuriadau gan Altaf Hussain. Roedd Sam Rowlands yn bresennol
fel eilydd. |
|
(13:30-15:00) |
Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Sophie Howe,
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Marie
Brousseau-Navarro, Prif Swyddog Gweithredu a Dirprwy Gomisiynydd Heledd
Morgan, Arweinydd Ysgogi Newid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cynhaliodd yr aelodau sesiwn graffu gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r
Dyfodol. |
|
(15:00-15:05) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd a Dr Davies ynghylch rhoi’r bleidlais i garcharorion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr aelodau'r ohebiaeth a chytuno, yn breifat, i ymateb i Dr Davies maes o law. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol ynghylch cyllideb ddrafft 2022-23 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau'r ohebiaeth. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (iv) ac (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(15:05-15:20) |
Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Bu’r Aelodau’n ystyriaeth y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunwyd
i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â
nifer o bwyntiau a drafodwyd, ac i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r Gyllideb Ddrafft. |
|
(15:35-16:15) |
Tlodi tanwydd a’r Rhaglen Cartrefi Clyd: Sesiwn friffio gydag Archwilio Cymru Adrian Crompton,
Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock,
Archwilio Cymru Marks Jeffs,
Archwilio Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd yr aelodau sesiwn friffio gan Archwilio Cymru. |
|
(16:15-16:30) |
Diweddariad ar welliannau i’r Bil Pensiynau a Swyddi Barnwrol y Gwasanaeth Cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r diweddariad. |