Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Claire Fiddes 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(12.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

  

1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Altaf Hussain AS. Roedd Tom Giffard AS yn bresennol fel dirprwy. 

 

 

(12.45)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 3 a 7

Cofnodion:

2.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.45 - 15.30)

3.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd a chytunodd yr Aelodau ar waith y Pwyllgor yn y dyfodol, a gwnaethant hefyd ystyried eu dull o graffu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

 

(13.45 - 14.30)

4.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – sesiwn dystiolaeth 1

Catherine Fookes, Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru

Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â gofal plant a chyflogaeth rhieni.

 

(14.45 - 15.30)

5.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – sesiwn dystiolaeth 2

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin, CWLWM

Jane O'Toole, Prif Swyddog Gweithredol – Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs, CWLWM

Sharon Davies, Pennaeth Addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â gofal plant a chyflogaeth rhieni.

 

(15.45 - 16.30)

6.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – sesiwn dystiolaeth 3

Johan Kaluza, Uwch Gynghorydd yr Adran Dadansoddi Polisi, Asiantaeth Tegwch rhwng y Rhywiau, Sweden

Alison Cumming, Cyfarwyddwr, Dysgu Cynnar a Gofal Plant, Llywodraeth yr Alban

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd  yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â gofal plant a chyflogaeth rhieni.

 

(16.30)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch dyled a'r pandemig - 5 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1a Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol.

 

(16.30 - 16.45)

8.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 4, 5 a 6.