Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i
gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. 1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan Aelodau. |
|
(13.30-15.00) |
Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru Yr Athro Simon
Hoffman – Prifysgol Abertawe Dr Sarah Nason –
Prifysgol Bangor Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â
chydraddoldeb a hawliau dynol. |
|
(15.00-15.05) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch cytundebau rhyngwladol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd (Cymru) y Cyngor Defnyddwyr Dŵr at y Cadeirydd ynghylch effaith y pandemig ar lefelau dyled Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Dyled a'r pandemig: tystiolaeth ysgrifenedig gan Cartrefi Cymunedol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3a Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig
ychwnaegol. |
||
(15.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.05-15.20) |
Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldebau a hawliau dynol yng Nghymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan
eitem 2. |
|
(15.40-16.25) |
Dyled a'r pandemig - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Bu’r Aelodau’n trafod ac yn ystyried yr adroddiad
drafft ac yn amodol ar fân newidiadau, byddant yn cytuno ar yr adroddiad yn
electronig. |
|
(16.25-16.40) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ac yn ystyried yr adroddiad
drafft a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn amodol ar fân newidiadau,
bydd yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig. |
|
Blaenraglen waith Cofnodion: 8a. Bu'r Aelodau'n trafod ac yn ystyried gwaith y
Pwyllgor yn y dyfodol a hefyd ymatebion yn ymwneud â llesiant cenedlaethau'r
dyfodol. |
||
Blaenraglen waith a chynllunio strategol o ran y camau nesaf Er mwyn llywio trafodaeth y flaenraglen waith, efallai yr hoffai'r Aelodau
ymgyfarwyddo o’r newydd â'r ohebiaeth ganlynol gan randdeiliaid a sefydliadau
partner: ·
Gohebiaeth
gan y Gender Network ynghylch cydraddoldeb rhywiol - 15 Medi 2021 [Saesneg yn
unig] Dogfennau ategol: |
||
(16.40-17.00) |
Cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: y stori hyd yma - trafod yr ymatebion Dogfennau ategol:
|