Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

  

1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan Aelodau.

 

 

(13.30-15.00)

2.

Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru

Yr Athro Simon Hoffman – Prifysgol Abertawe

Dr Sarah Nason – Prifysgol Bangor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol.

 

(15.00-15.05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cadeirydd ynghylch cytundebau rhyngwladol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 

3.2

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd (Cymru) y Cyngor Defnyddwyr Dŵr at y Cadeirydd ynghylch effaith y pandemig ar lefelau dyled

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 

3.3

Dyled a'r pandemig: tystiolaeth ysgrifenedig gan Cartrefi Cymunedol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3a Nododd yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig ychwnaegol.

 

(15.05)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(15.05-15.20)

5.

Cryfhau a hyrwyddo cydraddoldebau a hawliau dynol yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

(15.40-16.25)

6.

Dyled a'r pandemig - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Aelodau’n trafod ac yn ystyried yr adroddiad drafft ac yn amodol ar fân newidiadau, byddant yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.

 

(16.25-16.40)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ac yn ystyried yr adroddiad drafft a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn amodol ar fân newidiadau, bydd yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.

 

8.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

8a. Bu'r Aelodau'n trafod ac yn ystyried gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol a hefyd ymatebion yn ymwneud â llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

 

8.1

Blaenraglen waith a chynllunio strategol o ran y camau nesaf

Dogfennau ategol:

(16.40-17.00)

8.2

Cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: y stori hyd yma - trafod yr ymatebion

Dogfennau ategol: