Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.30-10.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Chweched Senedd. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS. Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant. |
|
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 2.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.45-10.55) |
Cylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nododd yr Aelodau'r cylch gwaith. |
|
(10.55-11.10) |
Gweithdrefnau pwyllgorau a'u ffyrdd o weithio Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Ystyriodd a thrafododd yr Aelodau’r papurau ar
weithdrefnau’r Pwyllgor a’i ffyrdd o weithio. |
|
(11.10-11.30) |
Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Ystyriodd a thrafododd yr Aelodau’r papur ar ddull
gweithredu strategol y Pwyllgor o weithredu a chytunwyd i drafod hyn eto yn
nhymor yr hydref. |
|
(11.30-12.00) |
Gwaith cynnar y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau’r papur ar fusnes cynnar y
Pwyllgor. |