Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/05/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

1.2.      Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Mabon ap Gwynfor AS.

 

(09.00 - 09.45)

2.

Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin – Briff gan Cyfiawnder Tai Cymru

Bonnie Williams, Cyfarwyddwr, Cyfiawnder Tai Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Bonnie Williams, Cyfarwyddwr Cyfiawnder Tai Cymru.

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Bonnie Williams, Cyfarwyddwr Cyfiawnder Tai Cymru, i ddarparu nodyn ar y gwaith sy’n cael ei wneud i ddarparu gwybodaeth a hyfforddiant i athrawon, staff a disgyblion i groesawu ffoaduriaid i’w hysgolion a’u derbyn.

 

(09.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod yr eitemau a ganlyn: 4, 5 ac 8

Cofnodion:

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(09.45 - 10.00)

4.

Trafod y papur briffio ar gartrefi i ffoaduriaid o Wcráin

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y papur briffio a’r sesiwn friffio a gafwyd, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y materion a godwyd.

 

(10.00 - 10.15)

5.

Trafod yr ymatebion a gafwyd gan randdeiliaid mewn perthynas â digartrefedd

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan randdeiliaid, a thrafododd y camau nesaf o ran ei waith.

 

(10.30 - 11.30)

6.

Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 9 – y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru

Huw Maguire, Pennaeth y Polisi Ail Gartrefi, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru

Huw Maguire, Pennaeth y Polisi Ail Gartrefi, Llywodraeth Cymru

 

6.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu'r eitemau a ganlyn:

·         Dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas â newid y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd.

·         Nodyn yn nodi’r amserlenni ar gyfer polisïau a amlinellodd y Gweinidog, gan gynnwys papurau gwyn i newid deddfwriaeth digartrefedd; helpu awdurdodau lleol i nodi cartrefi gwag; newid y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd; llety gwyliau mewn perthynas ag ardrethi busnes; adeiladu tai fforddiadwy sy’n parhau i fod yn fforddiadwy.

 

 

7.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

7.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymwneud â chynlluniau peilot etholiadol yn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ar 5 Mai 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn ymwneud â chynlluniau peilot etholiadol yn yr etholiadau llywodraeth leol a gynhaliwyd ar 5 Mai 2022.

 

7.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwneud â’i ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymwneud â’i ymchwiliad i anghydraddoldebau iechyd meddwl.

 

7.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â Chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud â Chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Ymgysylltu.

 

7.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â’i waith craffu blynyddol mewn perthynas ag adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymwneud â’i waith craffu blynyddol mewn perthynas ag adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

7.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd yn ymwneud â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd yn ymwneud â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar gyfer y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).

 

7.6

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn ymwneud â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.6.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn ymwneud â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Etholiadau.

 

7.7

Llythyr gan Jane Dodds AS yn ymwneud â diogelwch adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.7.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Jane Dodds AS yn ymwneud â diogelwch adeiladau.

 

7.8

Tystiolaeth ychwanegol gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a PASC UK (cangen Cymru) mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.8.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a gafwyd gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, UKHospitality Cymru a PASC UK (cangen Cymru) mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi.

 

7.9

Tystiolaeth ychwanegol gan Gymdeithas yr Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.9.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a gafwyd gan Gymdeithas yr Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi

 

7.10

Tystiolaeth ychwanegol gan Dyfodol i’r Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.10.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol a gafwyd gan Dyfodol i’r Iaith mewn perthynas â’r ymchwiliad i ail gartrefi.

 

7.11

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.11.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau.

 

(11.30 - 12.30)

8.

Ymchwiliad i ail gartrefi – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, gan drafod nifer o newidiadau i’w gwneud.