Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2021 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. 1.2. Cafwyd datganiad o fuddiannau perthnasol gan Alun Davies AS a Mabon ap
Gwynfor AS. |
||
(09.00 - 09.45) |
Sesiwn dystiolaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i drafod yr adroddiad "Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol" Nick Bennett,
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Adroddiad yr
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Adolygiad
Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol” Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett,
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 4, 6, 7 ac 8 yn y cyfarfod Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
||
(09.55 - 10.40) |
Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn friffio dechnegol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru Cofnodion: 4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol o dan
arweiniad swyddogion Llywodraeth Cymru. |
|
(10.50 - 11.50) |
Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 2 Cynghorydd Dafydd
Meurig, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd Heledd Fflur
Jones, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio, Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a
Môn Gareth Jones, Pennaeth
Adran Cynorthwyol, Adran yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd Adroddiad gan
Wasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd Môn a Gwynedd: Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Y Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd, Cyngor
Gwynedd Heledd Fflur Jones, Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio, Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd Ynys Môn a Gwynedd Gareth Jones, Pennaeth Adran cynorthwyol, Adran yr
Amgylchedd, Cyngor Gwynedd |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn
perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith
Lesddaliad (Rhent Tir). |
||
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir). |
||
Llythyr gan Jonathan Edwards AS ynghylch ystadau o dai anorffenedig ac allanoli rheoli adeiladu Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Jonathan Edwards AS
mewn perthynas ag ystadau o dai anorffenedig a rhoi’r broses o reoli adeiladau
ar gontract allanol. |
||
Llythyr gan Rhys ab Owen AS ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Rhys ab Owen AS
ynghylch cladin a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch
Adeiladau, a chytunodd i ymateb. |
||
Trafod y dystiolaeth a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan eitem 2 Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ac at randdeiliaid ar
faterion a godwyd yn ystod y sesiwn. |
||
Trafod yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diogelwch Adeiladau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a thrafod
newidiadau i'w gwneud. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) a bu’n trafod
materion i'w codi yn ei adroddiad drafft. |
||
Ymchwiliad i ail gartrefi – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 4 a 5 Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |