Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

1.2.      Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

(09.00 - 10.15)

2.

Digartrefedd – sesiwn dystiolaeth 5 – y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr,  Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Sarah Rhodes, Pennaeth atal Digartrefedd, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Amelia John, Cyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Sarah Rhodes, Pennaeth Atal Digartrefedd, Llywodraeth Cymru

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â phwysau’r gaeaf.

 

2.3. Gofynnodd y Pwyllgor i’r Gweinidog am ragor o wybodaeth ynghylch pam mai dim ond chwe awdurdod lleol sydd wedi cyflwyno Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym i Lywodraeth Cymru.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac o’r cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 14 Rhagfyr 2022

Cofnodion:

3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.30 - 11.30)

4.

Digartrefedd – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a thrafod y materion allweddol.

Cofnodion:

4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a’r materion allweddol, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas â nifer o’r materion a godwyd.

 

(11.30 - 11.35)

5.

Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.