Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/09/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

1.2.      Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol.

 

(09.00 - 10.15)

2.

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru

Tanya Wigfall, Pennaeth y Rhaglen Datgarboneiddio Preswyl, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau, Llywodraeth Cymru

Tanya Wigfall, Pennaeth y Rhaglen Datgarboneiddio Preswyl, Llywodraeth Cymru

Simon White, Pennaeth Deddfwriaeth Tai, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu papur yn amlinellu’r fformiwla ar gyfer gosod rhent cymdeithasol yng Nghymru.

 

(10.30 - 11.45)

3.

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Llywodraeth Leol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Adfer wedi Covid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Llywodraeth Leol a Phartneriaethau, Llywodraeth Cymru

Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

3.2. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:

·         Nodyn ar lefelau’r cronfeydd wrth gefn a gedwir i ddelio â’r argyfwng costau byw, ar ôl i’r gyllideb atodol gael ei chyhoeddi.

·         Nodyn ar y ffyrdd gorau posibl o ddefnyddio cronfeydd pensiwn awdurdodau lleol yng Nghymru.

·         Manylion am glercod cynghorau tref a chymuned sy'n weithgar yn wleidyddol mewn cynghorau.

·         Rhagor o wybodaeth am effaith cael gwared ar y gronfa democratiaeth ddigidol ar anghenion digidol llywodraeth leol.

 

(11.45)

4.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

4.1

Ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r adroddiad ar yr ymchwiliad i ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar yr ymchwiliad i ail gartrefi.

 

4.2

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch cynlluniau peilot etholiadol llywodraeth leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch cynlluniau peilot etholiadol llywodraeth leol.

 

4.3

Llythyr ar y cyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru ac Arweinyddiaeth Tai Cymru ynghylch Safon Ansawdd Tai Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr ar y cyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru, Sefydliad Tai Siartredig Cymru ac Arweinyddiaeth Tai Cymru ynghylch Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

4.4

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.

 

4.5

Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag arferion awdurdodau lleol yng Nghymru wrth ymdrin â chwynion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag arferion awdurdodau lleol yng Nghymru wrth ymdrin â chwynion.

 

4.6

Rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch asedau cymunedol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth bellach gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch asedau cymunedol.

 

4.7

Papur gan Dr Sarah Nason, Prifysgol Bangor: Deddfu i Rymuso Cymunedau: Cymharu Cyfraith Caffael Asedau Cymunedol yn y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.7.a Nododd y Pwyllgor y papur gan Dr Sarah Nason, Prifysgol Bangor: Deddfu i Grymuso Cymunedau: Cymharu Cyfraith Caffael Asedau Cymunedol yn y DU.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45 - 12.15)

6.

Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - trafod y dystiolaeth a ddeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3 a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar nifer o faterion a godwyd.

 

(13.00 - 14.00)

7.

Trafod yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i asedau cymunedol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd ar nifer o newidiadau.

 

(14.00 - 14.15)

8.

Trafod y dull ar gyfer gwaith ar ddigartrefedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull ar gyfer gwaith ar ddigartrefedd.

 

(14.15 - 14.30)

9.

Trafod y dull gweithredu ar gyfer gwaith diwygio'r dreth gyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1. Trafododd y Pwyllgor y dull ar gyfer gwaith ar ddiwygio'r dreth gyngor.