Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

(09.00 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i asedau cymunedol – sesiwn dystiolaeth 4: Y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Richard Baker, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Tir, Llywodraeth Cymru

Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Cynaliadwyedd, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Richard Baker, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Tir Llywodraeth Cymru

Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru

 

2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:

·         rhagor o wybodaeth am yr ymarfer mapio ar draws y Llywodraeth sy'n edrych ar bolisïau a rhaglenni sy'n ymwneud â chymunedau

·         copi o'r gwaith ymchwil ar werthoedd cymdeithasol gan Cwmpas

·         rhagor o wybodaeth yn ymwneud â defnydd awdurdodau lleol o’r cyllid sydd ar gael i gefnogi cymunedau.

 

2.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu:

·         nodyn ar yr ystod o gronfeydd sydd ar gael ar gyfer asedau cymunedol

·         copi electronig o'r ohebiaeth â Cwmpas

·         manylion am y cynllun Hunanadeiladu Cymru

·         nodyn technegol yn ymwneud â dymchwel adeiladau hanesyddol yng Nghaerdydd.

(10.15)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at bob Cadeirydd Pwyllgor mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pob Pwyllgor mewn cysylltiad â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.

 

3.2

Cyflwyniad ysgrifenedig gan Cartrefi Cymunedol Cymru mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pob Pwyllgor mewn cysylltiad â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1. Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig

 

(10.30 - 11.15)

5.

Ymchwiliad i asedau cymunedol – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a’r materion allweddol ar gyfer yr ymchwiliad.

 

(11.15 - 12.00)

6.

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

(12.00 - 12.30)

7.

Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd i fynd ar drywydd nifer o faterion yn nhymor yr hydref.