Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/06/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ethol Carolyn Thomas AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

(09.15)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

(09.15 - 10.45)

3.

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 2

Yr Athro Jo Richardson, Deon Cyswllt Ymchwil ac Arloesedd / Athro ym maes Tai ac Ymchwil Gymdeithasol, Prifysgol De Montfort

Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, BASW Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Yr Athro Jo Richardson, Deon Cyswllt Ymchwil ac Arloesedd / Athro ym maes Tai ac Ymchwil Gymdeithasol, Prifysgol De Montfort

Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, BASW Cymru

 

3.2. Yn ystod y dystiolaeth, cytunodd yr Athro Jo Richardson i ddarparu’r canlynol:

·         copi o'r adroddiad a luniwyd ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree;

·         copïau o'r adroddiadau sy'n cynnwys enghreifftiau o arferion gorau awdurdodau lleol.

 

3.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Allison Hulmes i ddarparu copi o ymchwil a gynhaliwyd yn 2022 gan “The British Journal of Social Work” yn ymwneud â gor-gynrychiolaeth plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n cael eu hatgyfeirio at wasanaethau lles plant neu sy’n derbyn gofal y wladwriaeth.

 

(10.55 - 11.55)

4.

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 3

Prif Gwnstabl Carl Foulkes, Heddlu Gogledd Cymru

Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed-Powys

 

 

Cofnodion:

4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Prif Gwnstabl Carl Foulkes, Heddlu Gogledd Cymru

Prif Gwnstabl Pam Kelly, Heddlu Gwent

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Heddlu Dyfed-Powys

 

4.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes i ddarparu copi o dull pum cam Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer ymgysylltu â chymunedau, sef yr hyn a ddefnyddiwyd cyn gweithredu deddfwriaeth yn ystod y pandemig Covid.

 

4.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Dafydd Llywelyn i ddarparu’r canlynol:

·         nodyn briffio yn ymwneud â nifer y gwersylloedd anghyfreithlon sydd gan Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru;

·         gwybodaeth bellach yn ymwneud â fforwm ieuenctid cymunedol Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn sir Benfro.

 

(11.55)

5.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

5.1

Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch goblygiadau rhaglen deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU i'r Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â goblygiadau rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer y Senedd.

 

5.2

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch ail gartrefi.

 

5.3

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch diogelwch adeiladu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â diogelwch adeiladau.

 

(13.30 - 14.30)

6.

Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - sesiwn dystiolaeth 4

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr Materion Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Materion Adfywio a Datblygu Cynaladwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daniel Hurford, Pennaeth Polisïau - Gwella a Llywodraethu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cofnodion:

6.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Daniel Hurford, Pennaeth Polisi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

6.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu’r canlynol:

·         ffigurau ar gyfer y safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr lle mae cais am ganiatâd cynllunio wedi llwyddo, a’r tir a brynwyd wedi hynny

·         ffigurau ar gyfer y blynyddoedd o hyfforddiant i gynghorwyr ledled Cymru ynglŷn â darparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr, fel yr amlinellir yng nghynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru

·         nodyn i egluro nifer y safleoedd tramwy yng Nghymru

·         nodyn ar enghreifftiau o arfer gorau ymysg awdurdodau lleol o ran ymgynghori ac ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ynglŷn â darparu safleoedd.

 

(14.30)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(14.30 - 14.45)

8.

Ymchwiliad i ddarpariaeth safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3, 4 a 6

Cofnodion:

8.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 3 a 4.

 

(14.45 - 15.00)

9.

Trafod y materion allweddol mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin

Cofnodion:

9.1. Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer ei waith mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin a chytunodd arnynt.