Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

1.2.      Cafwyd datganiadau o fuddiant perthnasol gan yr Aelodau a ganlyn:

·         Carolyn Thomas AS

·         Joel James AS

 

(10.30 - 11.45)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 3 - y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru

Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai, Llywodraeth Cymru

Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyflwyno rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

·         y rhesymau pam mae llawer o rieni o leiafrifoedd ethnig wedi nodi eu bod yn ddigartref i awdurdodau lleol;

·         amlinelliad o’r amserlen weithredu ar gyfer Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a, phan fydd ar gael, nodyn ar y gwersi a ddysgwyd o’r ddeddfwriaeth.

 

(11.45)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru "Adolygiad Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol"

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, "Adolygiad Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol".

 

3.2

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch materion tai a godwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y materion tai a godwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA).

 

(11.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.45 - 12.00)

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

(12.00 - 12.15)

6.

Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.